Lemmy
Lemmy | |
---|---|
Ffugenw | Lemmy |
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1945 Burslem |
Bu farw | 28 Rhagfyr 2015 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cerddor roc, gitarydd bas, canwr, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, gitarydd |
Arddull | cerddoriaeth roc, cerddoriaeth metel trwm, roc a rôl, metal-sbid, cerddoriaeth roc caled, metal trwm traddodiadol, space rock |
Math o lais | bariton |
Roedd Lemmy (ganwyd Ian Fraiser Kilmister, 24 Rhagfyr 1945 – 28 Rhagfyr 2015) yn ganwr a chwaraewr gitâr bâs y grŵp roc trwm Motörhead a chyn hynny Hawkwind. Yn ffigwr byd enwog - symbolodd y genre metel trwm ac eithafion bywyd roc caled.
Dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Stoke-on-Trent, ond symudodd ei deulu i fyw ym Menllech ar Ynys Môn ac fe gafodd y llysenw Lemmy pan oedd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.[1][2]
"Funnily enough, being the only English kid among 700 Welsh ones didn't make for the happiest time, but it was interesting from an anthropological point of view", meddai mewn cyfweliad blynyddoedd wedyn.[3]
Erbyn iddo adael yr ysgol roedd ei deulu wedi symud i fyw yng Nghonwy a gweithiodd yn ffactri Hotpoint yng Nghyffordd Llandudno cyn iddo dro at chwarae roc a rôl.[4]
Hawkwind a Motörhead
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd mewn nifer o fandiau fel Rainmaker's, Motown Sect, Rockin' Vickers, ac Opal Butterfly yn perfformio mewn gigs bach trwy ogledd Lloegr.
Bu'n roadie i Jimi Hendrix ar un o'i deithiau cynnar o Brydain.
Ym 1971 ymunodd â Hawkwind yn chwarae bâs ac yn canu o bryd i'w gilydd, yn cynnwys ar eu llwyddiant mwyaf y gân Silver Machine ym 1972. Ym 1975 fe'i arestiwyd yng Nghanada am fod â cociane ond pan ddarganfuwyd yr heddlu mai speed (anffetamin) oedd y cyffur fe'i rhyddhawyd. Serch hynny fe'i daflwyd o Hawkwind.
Ffurfiodd Lemmy band newydd o'r enw Bastard ond pan berswadiodd nad oedd byth siawns i fand o'r enw cael eu chwarae ar radio neu ymddangos ar deledu newidiwyd yr enw i Motörhead ar ôl teitl cân Hawkwind am ddefnyddwyr speed.
Roedd Lemmy yn benderfynol i'r sŵn y band newydd fod yn fwy syml gan ddychwelyd at elfennau craidd cerddoriaeth roc ac i fod yn gyflym, uchel ac ymosodol.
Wedi i aelodaeth Motörhead newid nifer o weithiau, dechreuodd y band cael llwyddiant fel triawd gyda'r gitarydd "Fast" Eddie Clarke and drymiwr Phil "Philthy Animal" Taylor a Lemmy ar gitâr fâs a chanu.[5]
Yn y 1970au roedd eu caneuon egnïol, syml yn aml yn cael eu hystyried yn nes at Punk Rock na llawer o grwpiau roc trwm y cyfnod a oedd wedi datblygu dull o chwarae cymhleth a gor-hunanbwysig.
Daeth caneuon fel Overkill, Bomber, Ace of Spades, a No Life 'Til Hammersmith yn llwyddiannau mawrion ac enillodd Motörhead dilyniant enfawr trwy'r byd. Dywedir i werthiant cyrsiau T Motörhead (gyda logo'r band mewn ffont gothig a ddau ddot ar ben yr ail 'o') fod cymaint â'u recordiau.
Bu Motörhead yn ddylanwad ar gystadlaethau canlynol o fandiau a genres fel Thrash/Death Metal.[5]
Er gwaethaf blynyddoedd o fywyd ar y ffordd a'i ddefnydd helaeth o gyffuriau llwyddodd Lemmy i fyw i 70 mlwydd oed gyda meddwl eglur.
Ymwelodd Lemmy â Chynulliad Cymru yn 2005 i ddweud wrth y gwleidyddion nad oedd eu polisïau cyffuriau yn gweithio.[6]
Bu farw o ganser ar 28 Rhagfyr 2015. Roedd newyddion ei farwolaeth yn un o brif benawdau'r newyddion a thalwyd teyrngedau lu iddo gan nifer fawr o gerddorion a beirniad. Lansiwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru newid Pont Britannia, Ynys Môn i Pont Lemmy fel anrhydedd iddo.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "KILMISTER, IAN FRASER (Lemmy) (1945 - 2015), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-07-18.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35192598
- ↑ Bevan, Nathan. "Classic interview: Lemmy – 'Never go camping with a one armed man'". Wales Online. Retrieved 13 November 2015.
- ↑ Clerk, Carol (2004). The Saga of Hawkwind. Omnibus Press, c2004. p. 546. ISBN 1-84449-101-3.
- ↑ 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-25. Cyrchwyd 2015-12-31.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-35193418
- ↑ https://www.change.org/p/welsh-government-llywodraeth-cymru-re-name-bridge-in-tribute-to-lemmy