Gandhinagar
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mahatma Gandhi |
Poblogaeth | 195,891 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Gefeilldref/i | Dubai |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gandhinagar district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 177 km² |
Uwch y môr | 81 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 23.223°N 72.65°E |
Cod post | 382010 |
Prifddinas talaith Gujarat yn India yw Gandhinagar (Gujarati: ગાંધીનગર ). Fe'i lleolir tua 23 km i'r gogledd o Ahmedabad, dinas fwyaf Gujarat, tua hanner ffordd ar y coridor diwydiannol sy'n cysylltu Delhi, prifddinas India, a Mumbai, 464 km i'r gorllewin. Mae'n ddinas newydd gynlluniedig sydd wedi'i henwi ar ôl Mahatma Gandhi (ystyr nagar yw 'dinas').
Gorwedd y ddinas newydd ar lan orllewinol Afon Sabarmati. Rhennir y ddinas yn 30 ardal neu sector sy'n ymestyn mewn cylch o gwmpas canolfan Llywodraeth Gujarat. Mae gan pob un o'r ardaloedd hyn ei chanolfannau siopio a chymuned ei hun ynghyd ag ysgol gynradd, canolfan iechyd a thai preifat a chyhoeddus. Ceir nifer o barciau yn y ddinas, yn enwedig ar lan Afon Sabarmati, sy'n creu awyrgylch 'dinas gerddi'.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas