Neidio i'r cynnwys

Dubai

Oddi ar Wicipedia
Dubai
Mathdinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr, dinas global, metropolis, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,331,420 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Mehefin 1833 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEmirate of Dubai Edit this on Wikidata
GwladBaner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
Arwynebedd35 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEmirate of Sharjah Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.2697°N 55.3094°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganAl Maktoum Edit this on Wikidata

Mae Dubai (Arabeg: إمارة دبي) yn un o'r saith o Emiradau, yn brifddinas Emiradau Dubai a hi yw'r dinas fwyaf poblog yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (EAU), gyda phoblogaeth o tua 3,331,420 (Ionawr 2020). Lleolir y ddinas ar arfordir gogleddol y wlad ar y Penrhyn Arabaidd. Weithiau gelwir Bwrdeistref Dubai yn ddinas Dubai er mwyn medru gwahaniaethu rhyngddo a'r Emiradau.[1][2][3]

Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl Abu Dhabi. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r pŵer i veto ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Daw prif incwm y ddinas o dwristiaeth, masnach, gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol[4] yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd.[5][6][7][8]

Lleolir twr fwyaf y Byd sef y Burj Khalifa yno, ac fe'i agorwyd yn swyddogol yn 2010. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 1820au, cyfeiriwyd at Dubai fel Al Wasl gan haneswyr o'r DU. Fodd bynnag, prin yw'r cofnodion sy'n ymwneud â hanes diwylliannol yr EAU neu'r Emiradau cyfansoddiadol yn sgîl traddodiadau llafar yr ardal wrth gofnodi a throsglwyddo chwedlau a straeon. Ceir anghydweld hefyd ynglŷn â tharddiad ieithyddol yr enw 'Dubai', wrth i rai credu ei fod yn tarddu o Bersia tra bod eraill o'r farn mai gwreiddiau Arabaidd sydd i'r enw. Yn ôl Fedel Hanadl, ymchwilydd ar hanes a diwylliant yr EAU, mae'n bosib fod y gair Dubai wedi dod o'r gair Daba (amrywiad o Yadub), sy'n meddwl cripian; gallai'r gair gyfeirio ar lif Cilfach Dubai i mewn tua'r tir, tra bod y bardd a'r ysgolhaig Ahmad Mohammad Obaid yn credu fod tarddiad y gair yr un peth, ond mai ei ystyr yw locustiaid.[9]

Mae hanes anheddiad dynol yn yr ardal sydd bellach wedi'i ddiffinio gan yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn gyfoethog a chymhleth, ac yn tynnu sylw at gysylltiadau masnachu helaeth rhwng gwareiddiadau Dyffryn Indus a Mesopotamia, ond hefyd mor bell i ffwrdd â'r Lefant.[10] Mae darganfyddiadau archaeolegol yn emirate Dubai, yn enwedig yn Al-Ashoosh, Al Sufouh a chyfoethog nodedig Saruq Al Hadid yn dangos fod yma anheddiadau dynol trwy'r cyfnodau Ubaid a Hafit, cyfnodau Umm Al Nar a Wadi Suq a'r tair Oes Haearn. Roedd yr ardal yn hysbys i'r Sumeriaid fel "Magan", ac roedd yn ffynhonnell ar gyfer nwyddau metelaidd, yn enwedig copr ac efydd.[11][12]

Gorchuddiwyd yr ardal â thywod tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl wrth i'r arfordir gilio i mewn i'r tir, gan ddod yn rhan o arfordir presennol y ddinas.[13] Cafwyd hyd i serameg cyn-Islamaidd o'r 3g a'r 4g. Cyn cyflwyno Islam i'r ardal, roedd pobl y rhanbarth hwn yn addoli Bajir (neu Bajar).[14] Ar ôl i Islam ledaenu yn y rhanbarth, goresgynnodd Umayyad Caliph (o'r byd Islamaidd dwyreiniol) dde-ddwyrain Arabia a gyrru'r Sassaniaid allan. Daeth gwaith cloddio gan Amgueddfa Dubai yn ardal Al-Jumayra (Jumeirah) o hyd i sawl arteffact o gyfnod Umayyad.[15]

Ceir sôn cynnar am Dubai yn 1095 mewn llawysgrif a elwir yn Llyfr Daearyddiaeth gan y daearyddwr Andalusaidd-Arabaidd Abu Abdullah al-Bakri. Ymwelodd y masnachwr perlau Fenisaidd Gasparo Balbi â'r ardal ym 1580 a soniodd fod Dubai (Dibei) yn enwog am ei ddiwydiant perlau.[15]

Canfod olew

[golygu | golygu cod]

Ar ôl blynyddoedd o archwilio yn dilyn darganfyddiadau mawr yn Abu Dhabi cyfagos, darganfuwyd olew o'r diwedd, mewn dyfroedd tiriogaethol oddi ar Dubai ym 1966, er ei fod y maes cyntaf yn fychani. Enwyd y maes olew cyntaf yn 'Fateh' neu 'ffortiwn dda'. Arweiniodd hyn at gyflymu cynlluniau datblygu seilwaith Sheikh Rashid a ffyniant adeiladu a ddaeth â mewnlifiad enfawr o weithwyr tramor, yn bennaf Asiaid a'r Dwyrain Canol. Rhwng 1968 a 1975 tyfodd poblogaeth y ddinas dros 300%.[16]

Porthladd Jebel Ali; 2007

Fel rhan o'r isadeiledd ar gyfer pwmpio a chludo olew o faes olew Fateh, sydd wedi'i leoli ar y môr gyferbyn ardal Jebel Ali, adeiladwyd dau danc storio 500,000 galwyn, a elwir yn lleol yn 'Kazzans', trwy eu weldio gyda'i gilydd ar y traeth ac yna'u harnofio a'u gollwng ar wely'r môr ym maes Fateh.[17] Adeiladwyd y rhain gan y Chicago Bridge and Iron Company, a roddodd ei enw lleol i'r traeth (Traeth Chicago), a Gwesty'r Chicago Beach, a gafodd ei ddymchwel a'i ddisodli gan Westy'r Jumeirah Beach ddiwedd y 1990au. Roedd y Kazzans yn datrys y broblem o sut i storio olew mewn ffordd arloesol, a olygai y gallai llong-danceri enfawr angori ar y môr hyd yn oed mewn tywydd gwael ac osgoi'r angen i bibellau olew ar y tir o Fateh, sydd tua 60 milltir allan i'r môr.[18]

Roedd Dubai eisoes wedi cychwyn ar gyfnod o ddatblygu ac ehangu isadeiledd. Ond roedd y refeniw olew hwn, a oedd yn llifo o 1969 ymlaen, yn ysgogiad i gyfnod o dwf aruthrol, gyda Sheikh Rashid yn cychwyn ar bolisi o adeiladu seilwaith, isadeiledd ac economi fasnachu amrywiol cyn i gronfeydd wrth gefn cyfyngedig yr emirate gael eu disbyddu. Roedd olew yn cyfrif am 24% o'r CMC yn 1990, ond roedd wedi gostwng i 7% o'r CMC erbyn 2004.[19]

Yn hollbwysig, un o'r prosiectau mawr cyntaf i Sheikh Rashid gychwyn arno pan ddechreuodd y refeniw olew lifo oedd adeiladu Port Rashid, porthladd rhydd, dŵr-dwfn a adeiladwyd gan y cwmni Prydeinig Halcrow. Y bwriad gwreiddiol oedd bod yn borthladd pedair angorfa, cafodd ei ymestyn i un ar bymtheg angorfa. Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol, gyda chiwio llongau i gael mynediad i'r cyfleusterau newydd. Cafodd y porthladd ei agor yn swyddogol ar 5 Hydref 1972, er bod ei angorfeydd i gyd yn cael eu defnyddio cyn gynted ag y cawsant eu hadeiladu. Ehangwyd Port Rashid ymhellach ym 1975 pan ychwanegwyd 35 angorfa arall, cyn i borthladd mwy Jebel Ali gael ei adeiladu.[19]

Dubai fodern

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 1970au, parhaodd Dubai i dyfu o refeniw a gynhyrchwyd o olew a masnach, hyd yn oed wrth i'r ddinas weld mewnlifiad o fewnfudwyr yn ffoi rhag rhyfel cartref Libanus.[20] Parhaodd anghydfod am y ffiniau rhwng yr emiradau hyd yn oed ar ôl ffurfio'r Emiradau Arabaidd Unedig; dim ond ym 1979 y daethpwyd i gyfaddawd ffurfiol a ddaeth a'r anghytundebau i ben.[21] Sefydlwyd porthladd Jebel Ali, porthladd dŵr dwfn a oedd yn caniatáu i longau mwy angori, ym 1979. Nid oedd y porthladd yn llwyddiant i ddechrau, felly sefydlodd Sheikh Mohammed y JAFZA (Parth Rhydd Jebel Ali) o amgylch y porthladd ym 1985.[22] Parhaodd maes awyr Dubai a'r diwydiant hedfan i dyfu hefyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "United Arab Emirates: metropolitan areas". World-gazetteer.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Awst 2009. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  2. The Government and Politics of the Middle East and North Africa. D Long, B Reich. p.157
  3. "Federal Supreme Council". uaecabinet.ae. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 25 Awst 2017.
  4. DiPaola, Anthony (28 Medi 2010). "Dubai gets 2% GDP from oil". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Hydref 2014.
  5. Oil share dips in Dubai GDP Archifwyd 26 Medi 2013 yn y Peiriant Wayback AMEInfo (9 Mehefin 2007) Retrieved on 15 Hydref 2007.
  6. Dubai economy set to treble by 2015 Archifwyd 3 Tachwedd 2014 yn y Peiriant Wayback ArabianBusiness.com (3 Chwefror 2007) Retrieved on 15 Hydref 2007.
  7. "Dubai diversifies out of oil". AMEInfo. 7 Medi 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 12 Awst 2008.
  8. Cornock, Oliver. "Dubai must tap booming halal travel industry – Khaleej Times". khaleejtimes.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2016. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2016.
  9. How did Dubai, Abu Dhabi and other cities get their names? Experts reveal all Archifwyd 2009-08-25 yn y Peiriant Wayback UAEInteract.com. Adalwyd 2007-05-10
  10. Weeks, Lloyd; Cable, Charlotte; Franke, Kristina; Newton, Claire; Karacic, Steven; Roberts, James; Stepanov, Ivan; David-Cuny, Hélène et al. (26 April 2017). "Recent archaeological research at Saruq al-Hadid, Dubai, UAE" (yn en). Arabian Archaeology and Epigraphy 28 (1): 39. doi:10.1111/aae.12082. ISSN 0905-7196.
  11. "Brushing off sands of time at the archaeological site of Saruq al-Hadid". The National (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 6 Medi 2018.
  12. "SHARP – the Saruq al-Hadid Archaeological Research Project". Research Plus (yn Saesneg). 3 Medi 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2018.
  13. "History and Traditions of the UAE" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  14. Ibrahim Al Abed, Peter Hellyer (2001). United Arab Emirates: A perspective. Trident Press. ISBN 978-1-900724-47-0. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  15. 15.0 15.1 "The Coming of Islam and the Islamic Period in the UAE. King, Geoffrey R." (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Ionawr 2013. Cyrchwyd 20 Ebrill 2013.
  16. "Historic population statistics" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2009.
  17. Chapman, Len. "How Chicago Beach got its name...then lost it!". Dubai As It Used To Be. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 JGorffennaf 2016. Cyrchwyd 20 Awst 2016. Check date values in: |archive-date= (help)
  18. Donald., Hawley (1970). The Trucial States. London: Allen & Unwin. t. 222. ISBN 978-0049530058. OCLC 152680.
  19. 19.0 19.1 Sampler & Eigner (2008). Sand to Silicon. UAE: Motivate. t. 11. ISBN 9781860632549.
  20. "Beirut Showing Signs of Recovery From Wounds of War". The New York Times. 26 Mai 1977. t.2
  21. Dubai. Carter, T and Dunston, L. Lonely Planet Publications
  22. "Free Zones in the UAE". uaefreezones.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Chwefror 2010. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.