Dyffryn Clwyd
![]() Awyrlun o led Dyffryn Clwyd o Langynhafal tua'r gorllewin | |
Math | dyffryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.21°N 3.38°W ![]() |
![]() | |
- Gweler hefyd Dyffryn Clwyd (gwahaniaethu).
Mae Dyffryn Clwyd yn ddyffryn eang sy'n gorwedd yn Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Llifa afon Clwyd drwyddo, ar lawr y dyffryn, drwy drefi Rhuthun, Dinbych a Llanelwy, i aberu ym Môr Iwerddon ger Y Rhyl. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn ceir Bryniau Clwyd sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Er mai o'r gogledd i'r de y llifa'r dyffryn, mae'r ffyrdd yn aml yn croesi o'r gorllewin i'r dwyrain, gyda phump o fryngaerau Neolithig yn gwarchod pob bwlch e.e. Moel Fenlli'n gwarchod Bwlch Pen Barras. Ar y cyfan, bywyd cefn gwlad sydd yma, ond yn y gogledd ceir trefi twristaidd y Rhyl a Phrestatyn. Yn y gogledd, hefyd mae un o brif ysbytai Gogledd Cymru: Ysbyty Glan Clwyd.
Ceir llawer o olion bywyd a diwylliant yma drwy Oes y Cerrig ac Oes yr Efydd, gan gynnwys olion Neanderthaliaid yn Ogof Bontnewydd, yng ngogledd-orllewin y Dyffryn a dynol yn Ogof Llandegla. Yn wir caiff gogledd-orllewin Cymru ei gyfrif yn 'un o'r llefydd pwysicaf yng ngorllewin Ewrop am dystiolaeth o weithgaredd dynol Paleolithig'.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd cantref Dyffryn Clwyd yn cyfateb yn fras i'r dyffryn daearyddol ac roedd oddi fewn i'r hyn a elwid y Berfeddwlad (rhwng Afon Conwy a'r Ddyfrdwy).



Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ian Brown, Discovering a Welsh Landscape (Windgather Press, 2004), tud. 5