Dorado (cytser)
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Dorado)
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Rhan o | hemisffer wybrennol y de ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1598 ![]() |
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Dorado. Mae ei enw yn cyfeirio at y dorado (Coryphaena hippurus), rhywogaeth o bysgod, er ei fod hefyd wedi'i ddarlunio ar siartiau sêr weithiau fel pysgodyn cleddyf, gan ddefnyddio'r enw "Xiphias". Dyma un o'r 12 cytser deheuol sy'n deillio o arsylwadau'r mordwywyr o'r Iseldiroedd Pieter Dirkszoon Keyser a Frederick de Houtman ar ddiwedd y 16g. Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1598 ar glôb gan Petrus Plancius ac ymddangosodd mewn print gyntaf yn 1603 yn atlas Uranometria Johann Bayer.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Mae Dorado yn cynnwys y rhan fwyaf o Gwmwl Mawr Magellan, gyda'r gweddill yn y cytser Mensa.