David Lynch
David Lynch | |
---|---|
![]() | |
Llais | David Lynch - Nuart Theatre trailer for Eraserhead.ogg ![]() |
Ganwyd | David Keith Lynch ![]() 20 Ionawr 1946 ![]() Missoula ![]() |
Bu farw | 16 Ionawr 2025 ![]() o emffysema ysgyfeiniol ![]() Los Angeles ![]() |
Man preswyl | Sunset Boulevard ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, cyfansoddwr, actor llais, animeiddiwr, arlunydd, golygydd ffilm, actor teledu, awdur geiriau, artist, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, ffotograffydd, llenor, cyfarwyddwr, cyfansoddwr caneuon, sinematograffydd, cerddor, sgriptiwr ffilm ![]() |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes ![]() |
Adnabyddus am | Blue Velvet, The Elephant Man, Eraserhead, Mulholland Drive, Twin Peaks: Fire Walk With Me, Lost Highway ![]() |
Arddull | ffilm ddrama, neo-noir, ffilm arswyd, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm gyffro, psychological horror film, sinema swreal, ffilm annibynnol, ffilm arbrofol, Swrealaeth ![]() |
Taldra | 180 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Mudiad | Swrealaeth ![]() |
Tad | Donald Lynch ![]() |
Mam | Sunny Lynch ![]() |
Priod | Peggy Reavey, Mary Fisk, Mary Sweeney, Emily Stofle ![]() |
Partner | Isabella Rossellini ![]() |
Plant | Jennifer Lynch, Austin Jack Lynch, Lula Boginia Lynch, Riley Sweeney Lynch ![]() |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Goslarer Kaiserring, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Saturn, Y Llew Aur, Palme d'Or, Gwobr Cyfarwyddwr Gorau Cannes, Gwobr Cesar i'r Ffilm Estron Gorau, European Film Award for Best Non-European Film, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Eagle Scout, Sitges Grand Honorary Award, Gwobrau César du Cinéma, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes ![]() |
llofnod | |
Delwedd:Unterschrift David Lynch US-amerikanischer Künstler.png, Künstlersignatur David K Lynch US-amerikanischer multitalentierter Künstler.png |
Roedd David Keith Lynch (20 Ionawr 1946 – 15 Ionawr 2025)[1][2] yn wneuthurwr ffilmiau, cyfarwyddwr, artist gweledol, cerddor ac actor o'r Unol Daleithiau. Yn enwog am ei ffilmiau swrrealaidd, datblygodd steil unigryw sinematig ei hun, sydd wedi cael ei alw'n "Lynchian", sy'n cael ei nodweddu gan ei ddelweddau breuddwydiol a dyluniad sain fanwl. Yn wir, elfennau swreal ac mewn llawer o achosion treisgar i'w ffilmiau wedi ennill enw iddynt eu bod yn "tarfu, troseddu neu syfrdanu" eu cynulleidfaoedd.[3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd i deulu dosbarth canol yn Missoula, Montana, treuliodd Lynch ei blentyndod yn teithio o amgylch yr Unol Daleithiau, cyn mynd ymlaen i astudio paentio yn Academi'r Celfyddydau Cain Pennsylvania yn Philadelphia, lle newidiodd i gynhyrchu ffilmiau byr.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n creu ffilmiau byr tra'n fyfyriwr cyn penderfynu symud i Los Angeles yn 1970 i astudio gwneud ffilmiau yn yr American Film Institute. Cynhyrchodd ei ffilm nodwedd cyntaf, y ffilm arswydus swrealaidd Eraserhead (1977). Wedi hynny, cafodd Lynch ei gyflogi i gyfarwyddo The Elephant Man (1980), a welodd llwyddiant mawr fel 'ffilm hanner nos'. Yna, cafodd ei cyflogi gan y De Laurentiis Entertainment Group, ac aeth ymlaen i wneud dwy ffilm: yr epig ffuglen wyddonol Dune (1984), a brofodd i fod yn fethiant beirniadol a masnachol, ac wedyn ffilm trosedd neo-noir, Blue Velvet (1986), a dderbyniodd feirniadaeth gymysg ar y pryd ond daeth yn ffilm gwlt.
Aeth ymlaen i greu ei gyfres deledu ei hun gyda Mark Frost, yr hynod o boblogaidd Twin Peaks (1990-92), creodd hefyd y prequel sinematig, Fire Walk With Me (1992); y ffilm ffordd, Wild at Heart (1990), ffilm deuluol The Straight Story (1999), yn yr un cyfnod. Gan droi ymhellach at wneud ffilmiau swrrealaidd, cynhyrchod dri ffilm yn gweithio ar "rhesymeg freuddwyd" gyda strwythurau naratif aflinol, Lost Highway (1997), Mulholland Drive (2001) ac Inland Empire (2006). Yn y cyfamser, aeth Lynch yn ei flaen i gynnwys y rhyngrwyd fel cyfrwng, gan gynhyrchu nifer o sioeau gwe, fel yr animeiddiad Dumbland (2002) a'r comedi sefyllfa swrrealaidd Rabbits (2002).
Yn ystod ei yrfa, derbyniodd Lynch dri enwebiad Gwobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau,[4][5][6] ac enwebiad am y sgript ffilm orau. Enillodd Lynch y Wobr César Ffrainc am Ffilm Orau Dramor, yn ogystal â'r Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes[7] a gwobr Golden Lion am lwyddiant oes yng Ngŵyl Ffilm Fenis.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]
Cafodd sawl perthynas hir dymor. Ganwyd plant iddo gan Peggy Reavey, Mary Fisk, Mary Sweeney a Lula Boginia Lynch.
Yn Awst 2024, mewn cyfweliad a Sight and Sound, dywedodd Lynch ei fod yn dioddef o emffysema wedi blynyddoedd o ysmygu sigarets ac ei fod yn gaeth i'w gartref. Dywedodd ei fod wedi dechrau ysmygu yn 8 mlwydd oed ac wedi rhoi'r gorau iddi yn 2022.
Yn Ionawr 2025 roedd yn rhaid iddo adael ei gartref oherwydd fod y tanau gwyllt yn Los Angeles yn bygwth yr ardal roedd yn byw ynddi. Adroddodd Deadline Hollywood fod hyn wedi cyfrannu at ddirywiad sydyn yn ei iechyd a bu farw yng nghartref ei ferch ar 15 Ionawr 2025 yn 78 mlwydd oed.[2][8]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilm
Blwyddyn | Teitl | Dosbarthwr | Cyfeiriadau |
---|---|---|---|
1977 | Eraserhead | Libra Films | [9] |
1980 | The Elephant Man | Paramount Pictures | |
1984 | Dune | Universal Pictures | |
1986 | Blue Velvet | De Laurentiis Entertainment Group | |
1990 | Wild at Heart | The Samuel Goldwyn Company | |
1992 | Twin Peaks: Fire Walk With Me | New Line Cinema | |
1997 | Lost Highway | October Films | |
1999 | The Straight Story | Buena Vista Pictures (dan enw Walt Disney Pictures[10]) | |
2001 | Mulholland Drive | Universal Pictures | |
2006 | Inland Empire | Absurda, 518 Media[11] |
Teledu
Blwyddyn | Teitl | Rhwydwaith | Cyfeiriadau |
---|---|---|---|
1990–1991 | Twin Peaks | ABC | [9] |
1992 | On the Air | [12]{rp|xxvi}} | |
1993 | Hotel Room | HBO | |
2017 | Twin Peaks | Showtime | [9] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "David Lynch: Film director dies at 78, family says". BBC News (yn Saesneg). 2025-01-16. Cyrchwyd 2025-01-16.
- ↑ 2.0 2.1 Morris, Chris. "David Lynch, Visionary Director of 'Twin Peaks' and 'Blue Velvet,' Dies at 78". variety.com. Variety. Cyrchwyd 16 Ionawr 2025.
- ↑ Lynch and Rodley 2005. p. 245.
- ↑ "1980 Academy Awards Nominations".
- ↑ "1986 Academy Awards Nominations".
- ↑ "2001 Academy Awards Nominations".
- ↑ "Festival de Cannes: Wild at Heart". festival-cannes.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-19. Cyrchwyd 2009-08-07.
- ↑ Pedersen, Erik; D'Alessandro, Anthony (16 Ionawr 2025). "David Lynch Dies: 'Twin Peaks', 'Blue Velvet', 'Elephant Man' & 'Eraserhead' Visionary Was 78". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 16 Ionawr 2025.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Ankeny, Jason. "David Lynch movies, photos, movie reviews, filmography, and biography". AllMovie. Allrovi. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2012. Cyrchwyd 13 Awst 2012.
- ↑ "The Straight Story (1999)". AFI Catalog of Feature Films. Cyrchwyd 9 Chwefror 2022.
- ↑ Goldstein, Gregg (16 Tachwedd 2006). "Lynch set to self-release 'Empire'". The Hollywood Reporter. Associated Press. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2021.
- ↑ Barney, Richard A. (2009). David Lynch: Interviews. University Press of Mississippi. ISBN 978-1-60473-236-8. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2016. Cyrchwyd 12 Ionawr 2016.