Daearyddiaeth yr Iseldiroedd
Nodweddion pwysicaf daearyddiaeth yr Iseldiroedd yw fod y tir yn isel a dwysder y boblogaeth yn uchel. Mae tua 40% o'r wlad, yn cynnwys rhan helaeth o ardaloedd poblog y gorllewin, yn is na lefel y môr. Ffurfir de-orllewin y wlad gan ddelta anferth sydd wedi ei greu gan dair afon fawr, Afon Rhein, Afon Waal ac Afon Schelde. Yn fuan wedi croesi'r ffin rhwng yr Almaen a'r Iseldiroedd, mae Afon Rhein yn ymrannu yn dair cangen fawr. Llifa dwy o'r rhain, Afon Waal a'r Nederrijn, tua'r gorllewin, tra mae'r drydedd, Afon IJssel yn llifo tua'r gogledd i ymuno a'r IJsselmeer.
Y man uchaf yn yr Iseldiroedd yw bryn y Vaalserberg, sydd 322.7 medr uwch lefel y môr. Y pwynt isaf yw man yng nghymuned Nieuwerkerk aan den IJssel yn nhalaith Zuid-Holland sydd 6.76 medr islaw lefel y môr.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Dinasoedd mwyaf poblog yr Iseldiroedd yw:
1 Amsterdam (Noord-Holland) 744,740
2 Rotterdam (Zuid-Holland) 581,615
3 Den Haag ('s-Gravenhage) (Zuid-Holland) 474,245
4 Utrecht (Utrecht) 290,529
5 Eindhoven (Noord Brabant) 209,601
6 Tilburg (Noord Brabant) 200,975
7 Almere (Flevoland) 181,990
8 Groningen (Groningen) 180,824
9 Breda (Noord Brabant) 170,451
10 Nijmegen (Gelderland) 160,732
11 Apeldoorn (Gelderland) 155,328
12 Enschede (Overijssel) 154,311
13 Haarlem (Noord-Holland) 147,179
14 Arnhem (Gelderland) 142,638
15 Zaanstad (Noord-Holland) 141,829
16 Amersfoort (Utrecht) 139,914 inh.
17 Haarlemmermeer (Noord-Holland) 139,396
18 's-Hertogenbosch (Noord Brabant) 135,787
19 Zoetermeer (Zuid-Holland) 118,534
20 Dordrecht (Zuid-Holland) 118,443
Mae nifer o'r dinasoedd yng ngorllewin a gogledd canolbarth y wlad yn ffurfio cytref fawr a elwir y Randstad ('Dinas yr Ymyl' yr yr Iseldireg). Mae'n cynnwys pedair dinas fwya'r Iseldiroedd, Amsterdam, Rotterdam, Den Haag ac Utrecht a'r ardaloedd a'r mân drefi o'u cwmpas, fel Almere, Delft, Dordrecht, Gouda, Haarlem, Hilversum, Leiden a Zoetermeer. Mae dinasoedd y Randstad yn llunio hanner gylch neu gilgant, ac mae'r enw yn tarddu o'r siap hwnnw.