Cwsg
Cyflwr anymwybodolrwydd naturiol yw cwsg; y gwrthwyneb i'r cyflwr o fod yn effro neu ar ddi-hun.
Digwydd cwsg arferol mewn pedair rhan olynol sy'n amrywio yn eu dyfnder. Mae gweithgaredd trydanol yr ymenydd yn parhau ond yn troi'n fwy rhythmaidd nag yn y cyflwr effro ac yn llai agored i stimuli allanol.
O bryd i'w gilydd torrir ar gwsg arferol gan gyfnodau o gwsg paradocsaidd sy'n peri i'r llygaid symyd yn gyflym ac i'r ymenydd fod yn fwy gweithgar er bod y cyhyrau yn fwy ymlaciedig nag yn ystod cwsg arferol. Cysylltir cwsg paradocsaidd â breuddwydion yn neilltuol.
Mae rhaid wrth gwsg yn fiolegol. Ymddengys fod cwsg yn angenrheidiol er mwyn rheoli tyfiant corfforol; mae anghenion unigolion yn amrywio'n fawr o tua tair i ddeg awr y nos. Achosir anhunedd (insomnia) gan newid arferion, pryder, iselder a chyffuriau neu feddyginiaethau.
Mae anhwyldebau cwsg yn cynnwys cerdded yn eich cwsg a hunllefau.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Academi Americanaidd Meddyginiaeth Cwsg
- Cymdeithas Ymchwil Cwsg
- Sefydliad Cenedlaethol Cwsg - UDA
- Canolfan Genedlaethol Ymchwil ar Anhwylderau Cwsg - UDA
- "Everything You Always Wanted To Know About Sleep" Archifwyd 2007-01-18 yn y Peiriant Wayback
- "Sleep We Have Lost" - arferion cysgu cyn y Chwyldro Diwydiannol yng ngwledydd Prydain
- 40 Ffaith am Gwsg