Cwpan y Byd Pêl-droed 2014
Copa do Mundo da FIFA Brasil 2014 | |
---|---|
Logo Cwpan y Byd FIFA 2014 | |
Manylion | |
Cynhaliwyd | Brasil |
Dyddiadau | 12 Mehefin – 13 Gorffennaf |
Timau | 32 (o 5 ffederasiwns) |
Lleoliad(au) | 12 (mewn 12 dinas) |
Safleoedd Terfynol | |
Pencampwyr | yr Almaen (4ydd) |
Ail | yr Ariannin |
Trydydd | yr Iseldiroedd |
Pedwerydd | Brasil |
Ystadegau | |
Gemau chwaraewyd | 64 |
Goliau a sgoriwyd | 171 (2.67 y gêm) |
Torf | 3,429,875 (53,592 y gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | James Rodríguez (6 gôl) |
Chwaraewr gorau | Lionel Messi |
Chwaraewr ifanc gorau | Paul Pogba |
Golwr gorau | Manuel Neuer |
← 2010 2018 → |
Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA 2014 yn Brasil rhwng 12 Mehefin ac 13 Gorffennaf 2014. Dyma fydd yr ugeinfed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal a'r ail dro i Brasil gynnal y gystadleuaeth, ar ôl cynnal Cwpan y Byd 1950.
Dechreuodd y broses o gyrraedd Brasil ar 15 Mehefin, 2011 wrth i Montserrat golli 2-5 gartref yn erbyn Belîs a daeth y gystadleuaeth i ben gyda'r rownd derfynol yn yr Estádio do Maracanã, Rio de Janeiro ar 13 Gorffennaf 2014 wrth i'r Almaen drechu'r Ariannin 1-0 yn y rownd derfynol a thorri eu henwau ar y tlws am y pedwerydd tro yn eu hanes, ac wrth wneud hynny, yn dod y tîm cyntaf o Ewrop i godi'r tlws yn Ne America.
Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd i'r dyfarnwyr allu alw ar dechnoleg llinell-gôl i ddyfarnu os yw'r bêl wedi croesi llinell gôl a hefyd y gallu i ddefnyddio ewyn diflannol ar gyfer ciciau rhydd.[1]
Roedd pob gwlad sydd wedi codi Cwpan y Byd yn y gorffennol wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 gyda'r Almaen (enillodd dair tlws fel Gorllewin Yr Almaen), Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Lloegr, Sbaen ac Wrwgwai i gyd yn bresennol.
Dyma oedd y tro cyntaf i Bosnia a Hercegovina ymddangos yn y rowndiau terfynol.
Dewis Lleoliad
[golygu | golygu cod]Roedd FIFA wedi cyhoeddi yn 2003 mai yn Ne America byddai twrnament 2014 yn cael ei gynnal, fel rhan o'u polisi i rannu'r bencampwriaeth rhwng yr holl gonffederasiynau[2]. Llwyddodd Brasil i ennill yr hawl i gynnal y bencampwriaeth yn 2007 wedi i Colombia dynnu eu cais yn ôl[3].
Rowndiau Rhagbrofol
[golygu | golygu cod]Niferoedd
[golygu | golygu cod]Roedd Brasil yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol fel y wlad a oedd yn cynnal y twrnament, a chafwyd 207 o wledydd eraill yn ceisio am 31 lle yn y rowndiau terfynol oedd wedi'w rhannu rhwng y chwe conffederasiwn fel a ganlyn[4]:
- AFC (Asia): 4 neu 5 lle
- CAF (Affrica): 5 lle
- CONCACAF (Gogledd, Canol America a'r Caribî): 3 neu 4 lle
- CONMEBOL (De America): 4 neu 5 lle (+ Brazil am gyfanswm o 5 neu 6 lle)
- OFC (Oceania): 0 neu 1 lle
- UEFA (Ewrop): 13 lle
Roedd y tîm a orffenodd yn bumed yn yr AFC yn herio'r tîm a orffenodd yn bumed yn CONMEBOL gyda'r tîm a oedd yn bedwerydd yn CONCACAF yn herio'r tîm a orffenodd yn gyntaf yng ngemau rhagbrofol OFC am le yn y rowndiau terfynol.
Bhwtan, Brwnei, Gwam a Mauritania oedd yr unig aelodau o Fifa i beidio cystadlu tra bod De Swdan wedi ymuno â Fifa ar ôl i'r broses rhagbrofol gychwyn. Cafwyd 820 o gemau yn y broses rhagbrofol wedi i'r Bahamas a Mawrisiws dynnu'n ôl o'r gystadleuaeth[5][6][7].
Timau Llwyddiannus
[golygu | golygu cod]
|
|
|
Detholi'r grwpiau
[golygu | golygu cod]Defnyddir safle dethol y timau ar restr detholion Fifa (mewn cromfachau) ym mis Hydref 2013 ar gyfer dethol y timau[8].
Pot 1: Prif Ddetholion | Pot 2: Affrica a De America | Pot 3: Asia a Gogledd America | Pot 4: Ewrop |
---|---|---|---|
|
|
Cafodd un tîm Ewropeaidd ei dynnu allan o Bot 4 er mwyn creu pedwar pot gydag wyth tîm ym mhob un (Yr Eidal ddaeth allan o'r pot). Er mwyn sicrhau gwahaniaeth daearyddol ym mhob grŵp, crewydd pot ychwanegol ("Pot X") lle rhoddwyd y pedwar prif ddetholyn o Dde America (o Bot 1) a chafodd Wrwgwái eu tynnu allan o'r pot ychwanegol yma. Cafodd Yr Eidal (o Bot 2) eu gosod yn yr un grŵp ag Wrwgwái (o Pot X) er mwyn sicrhau na fyddai tri thîm Ewropeaidd yn ymddangos yn yr un grŵp.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Amser pob gêm wedi ei nodi yn Amser Hâf Prydain (BST), sef UTC+1
Y Grwpiau
[golygu | golygu cod]Roedd gemau'r grwpiau yn nodweddiadol am y nifer o goliau a sgoriwyd a bu rhaid disgwyl hyd nes y trydydd gêm ar ddeg cyn cael gêm ddi-sgôr, sef y gêm rhwng Iran a Nigeria. Dyma'r rhediad hiraf heb gêm gyfartal ers Cwpan y Byd 1930[9]. Cafwyd 136 o goliau yn ystod y grwpiau - dim ond naw gôl yn llai na gafwyd trwy gydol twrnament 2010 yn Ne Affrica[10]. Dyma'r nifer fwyaf o goliau yn ystod gemau'r grwpiau ers i'r twrnament ymestyn i 32 tîm ym 1998[11].
Roed chwe tîm wedi sicrhau eu lle yn Rownd yr 16 wedi dim ond dwy gêm: Yr Iseldiroedd, Tsile, Colombia, Costa Rica, Yr Ariannin a Gwlad Belg, ond cafodd y deiliaid, Sbaen, eu bwrw allan o'r gystadleuaeth wedi dwy gêm[12][13].
Methodd Lloegr a chamu ymlaen o'r grwpiau am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958[14] a cafodd Yr Eidal eu bwrw allan o'r gystadleuaeth ar ôl rhwydo dwy gôl yn unig - eu cyfanswm gwaethaf ers Cwpan y Byd 1966[15]
Llwyddod wyth o'r 10 tîm o gyfandiroedd yr Americas (CONCACAF a CONMEBOL) i gyrraedd Rownd yr 16 a dyma'r tro cyntaf i CONCACAF weld tri thîm ymysg yr 16 olaf a'r tro cyntaf i ddau dîm o Africa (CAF) gamu allan o'r grwpiau[16][17]. Ond cafodd timau Asia (AFC) bencampwriaeth i'w anghofio gyda pob un o'u timau yn gorffen ar waelod eu grŵp heb ennill yr un gêm[16][18].
Grŵp A
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Brasil | 3 | 2 | 1 | 0 | 7 | 2 | +5 | 7 |
Mecsico | 3 | 2 | 1 | 0 | 4 | 1 | +3 | 7 |
Croatia | 3 | 1 | 0 | 2 | 6 | 6 | 0 | 3 |
Camerŵn | 3 | 0 | 0 | 3 | 1 | 9 | -8 | 0 |
12 Mehefin 2014 21:00 |
Brasil | 3 – 1 | Croatia |
---|---|---|
Neymar 29', 71' (c.o.s.) Oscar 90+1' |
(Saesneg) Adroddiad | Marcelo 11' (g.e.h.) |
23 Mehefin 2014 21:00 |
Croatia | 1 – 3 | Mecsico |
---|---|---|
Perišić 87' | (Saesneg) Adroddiad | Márquez 72' Guardado 75' Hernández 82' |
Grŵp B
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
yr Iseldiroedd | 3 | 3 | 0 | 0 | 10 | 3 | +7 | 9 |
Tsile | 3 | 2 | 0 | 1 | 5 | 3 | +2 | 6 |
Sbaen | 3 | 1 | 0 | 2 | 4 | 7 | -3 | 3 |
Awstralia | 3 | 0 | 0 | 3 | 3 | 9 | -6 | 0 |
13 Mehefin 2014 20:00 |
Sbaen | 1 – 5 | yr Iseldiroedd |
---|---|---|
Alonso 27' (c.o.s.) | (Saesneg) Adroddiad | Van Persie 44', 72' Robben 53', 80' de Vrij 64' |
13 Mehefin 2014 23:00 |
Tsile | 3 – 1 | Awstralia |
---|---|---|
Sánchez 12' Valdívia 14' Beausejour 90+2' |
(Saesneg) Adroddiad | Cahill 35' |
18 Mehefin 2014 17:00 |
Awstralia | 2 – 3 | yr Iseldiroedd |
---|---|---|
Cahill 21' Jedinak 54' (c.o.s.) |
(Saesneg) Adroddiad | Robben 20' Van Persie 58' Memphis Depay 68' |
Grŵp C
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Colombia | 3 | 3 | 0 | 0 | 9 | 2 | +7 | 9 |
Groeg | 3 | 1 | 1 | 1 | 2 | 4 | -2 | 4 |
Côte d'Ivoire | 3 | 1 | 0 | 2 | 4 | 5 | -1 | 3 |
Japan | 3 | 0 | 1 | 2 | 2 | 6 | -4 | 1 |
19 Mehefin 2014 17:00 |
Colombia | 2 – 1 | Côte d'Ivoire |
---|---|---|
Rodríguez 64' Quintero 70' |
(Saesneg) Adroddiad | Gervinho 73' |
24 Mehefin 2014 21:00 |
Japan | 1 – 4 | Colombia |
---|---|---|
Okazaki 45+1' | (Saesneg) Adroddiad | Cuadrado 17' (c.o.s.) Martínez 55', 82' Rodríguez 90' |
24 Mehefin 2014 21:00 |
Groeg | 2 – 1 | Côte d'Ivoire |
---|---|---|
Samaris 42' Samaras 90+3' (c.o.s.) |
(Saesneg) Adroddiad | Bony 74' |
Grŵp D
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Costa Rica | 3 | 2 | 1 | 0 | 4 | 1 | +3 | 7 |
Wrwgwái | 3 | 2 | 0 | 1 | 4 | 4 | 0 | 6 |
yr Eidal | 3 | 1 | 0 | 2 | 2 | 3 | -1 | 3 |
Lloegr | 2 | 0 | 0 | 2 | 2 | 4 | -2 | 0 |
14 Mehefin 2014 20:00 |
Wrwgwái | 1 – 3 | Costa Rica |
---|---|---|
Cavani 24' (c.o.s.) | (Saesneg) Adroddiad | Campbell 54' Duarte 57' Ureña 84' |
14 Mehefin 2014 23:00 |
Lloegr | 1 – 2 | yr Eidal |
---|---|---|
Sturridge 37' | (Saesneg) Adroddiad | Marchisio 35' Balotelli 50' |
Grŵp E
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ffrainc | 3 | 2 | 1 | 0 | 8 | 2 | +6 | 7 |
y Swistir | 3 | 2 | 0 | 1 | 7 | 6 | +1 | 6 |
Ecwador | 3 | 1 | 1 | 1 | 3 | 3 | 0 | 4 |
Honduras | 3 | 0 | 0 | 3 | 1 | 8 | -7 | 0 |
15 Mehefin 2014 17:00 |
y Swistir | 2 – 1 | Ecwador |
---|---|---|
Mehmedi 48' Seferovic 90+3' |
(Saesneg) Adroddiad | Valencia 22' |
15 Mehefin 2014 20:00 |
Ffrainc | 3 – 0 | Honduras |
---|---|---|
Benzema 45' (c.o.s.) Valladares 48' (g.e.h.) |
(Saesneg) Adroddiad |
20 Mehefin 2014 20:00 |
y Swistir | 2 – 5 | Ffrainc |
---|---|---|
Džemaili 81' Xhaka 87' |
(Saesneg) Adroddiad | Giroud 17' Matiudi 18' Valbuena 40' Benzema 67' Sissoko 73' |
Grŵp F
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
yr Ariannin | 3 | 3 | 0 | 0 | 6 | 3 | +3 | 9 |
Nigeria | 3 | 1 | 1 | 1 | 3 | 3 | 0 | 4 |
Bosnia a Hercegovina | 3 | 1 | 0 | 2 | 4 | 4 | 0 | 3 |
Iran | 3 | 0 | 1 | 2 | 1 | 4 | -3 | 1 |
15 Mehefin 2014 23:00 |
Yr Ariannin | 2 – 1 | Bosnia a Hercegovina |
---|---|---|
Kolašinac 3' (g.e.h.) Messi 65' |
(Saesneg) Adroddiad | Ibišević 84' |
25 Mehefin 2014 17:00 |
Nigeria | 2 – 3 | yr Ariannin |
---|---|---|
Musa 4', 47' | (Saesneg) Adroddiad | Messi 3', 45+1' Rojo 50' |
25 Mehefin 2014 17:00 |
Bosnia a Hercegovina | 3 – 1 | Iran |
---|---|---|
Džeko 23' Pjanić 59' Vršajević 83' |
(Saesneg) Adroddiad | Ghoochannejhad 82' |
Grŵp G
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
yr Almaen | 3 | 2 | 1 | 0 | 7 | 2 | +5 | 7 |
UDA | 3 | 1 | 1 | 1 | 4 | 4 | 0 | 4 |
Portiwgal | 3 | 1 | 1 | 1 | 4 | 7 | -3 | 4 |
Ghana | 3 | 1 | 1 | 1 | 4 | 6 | -2 | 1 |
16 Mehefin 2014 17:00 |
yr Almaen | 4 – 0 | Portiwgal |
---|---|---|
Müller 12' (c.o.s.), 45+1', 78' Hummels 32' |
(Saesneg) Adroddiad |
21 Mehefin 2014 20:00 |
yr Almaen | 2 – 2 | Ghana |
---|---|---|
Götze 51' Klose 71' |
(Saesneg) Adroddiad | A. Ayew 54' Gyan 63' |
22 Mehefin 2014 23:00 |
UDA | 2 – 2 | Portiwgal |
---|---|---|
Jones 54' Dempsey 81' |
(Saesneg) Adroddiad | Nani 5' Varela 90+5' |
Grŵp H
[golygu | golygu cod]Tîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwlad Belg | 3 | 3 | 0 | 0 | 4 | 1 | +3 | 9 |
Algeria | 3 | 1 | 1 | 1 | 6 | 5 | +1 | 4 |
Rwsia | 3 | 0 | 2 | 1 | 2 | 3 | -2 | 2 |
De Corea | 3 | 0 | 1 | 2 | 3 | 6 | -3 | 1 |
17 Mehefin 2014 17:00 |
Gwlad Belg | 2 – 1 | Algeria |
---|---|---|
Fellaini 70' Mertens 80' |
(Saesneg) Adroddiad | Feghouli 25' (c.o.s.) |
22 Mehefin 2014 20:00 |
De Corea | 2 – 4 | Algeria |
---|---|---|
Heung-Min Son 50' Koo Ja-cheol 72' |
(Saesneg) Adroddiad | Slimani 26' Halliche 28' Djabou 38' Brahimi 62' |
Rowndiau Olaf
[golygu | golygu cod]Rownd yr 16 | Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | |||||||||||
28 Mehefin - Belo Horizonte | ||||||||||||||
Brasil (c.o.s.) | 1 (3) | |||||||||||||
4 Gorffennaf - Fortaleza | ||||||||||||||
Tsile | 1 (2) | |||||||||||||
Brasil | 2 | |||||||||||||
28 Mehefin - Rio de Janeiro | ||||||||||||||
Colombia | 1 | |||||||||||||
Colombia | 2 | |||||||||||||
8 Gorffennaf - Belo Horizonte | ||||||||||||||
Wrwgwái | 0 | |||||||||||||
Brasil | 1 | |||||||||||||
30 Mehefin - Brasília | ||||||||||||||
yr Almaen | 7 | |||||||||||||
Ffrainc | 2 | |||||||||||||
4 Gorffennaf - Rio de Janeiro | ||||||||||||||
Nigeria | 0 | |||||||||||||
Ffrainc | 0 | |||||||||||||
30 Mehefin - Porto Alegre | ||||||||||||||
yr Almaen | 1 | |||||||||||||
yr Almaen (w.a.y.) | 2 | |||||||||||||
13 Gorffennaf - Rio de Janeiro | ||||||||||||||
Algeria | 1 | |||||||||||||
yr Almaen (w.a.y.) | 1 | |||||||||||||
29 Mehefin - Fortaleza | ||||||||||||||
yr Ariannin | 0 | |||||||||||||
yr Iseldiroedd | 2 | |||||||||||||
5 Gorffennaf - Salvador | ||||||||||||||
Mecsico | 1 | |||||||||||||
yr Iseldiroedd (c.o.s.) | 0 (4) | |||||||||||||
29 Mehefin - Recife | ||||||||||||||
Costa Rica | 0 (3) | |||||||||||||
Costa Rica (c.o.s.) | 1 (5) | |||||||||||||
9 Gorffennaf - São Paulo | ||||||||||||||
Groeg | 1 (3) | |||||||||||||
yr Iseldiroedd | 0 (2) | |||||||||||||
1 Gorffennaf - São Paulo | ||||||||||||||
yr Ariannin (c.o.s.) | 0 (4) | Trydydd Safle | ||||||||||||
yr Ariannin (w.a.y.) | 1 | |||||||||||||
5 Gorffennaf - Brasília | 12 Gorffennaf - Brasília | |||||||||||||
y Swistir | 0 | |||||||||||||
yr Ariannin | 1 | Brasil | 0 | |||||||||||
1 Gorffennaf - Salvador | ||||||||||||||
Gwlad Belg | 0 | yr Iseldiroedd | 3 | |||||||||||
Gwlad Belg (w.a.y.) | 2 | |||||||||||||
UDA | 1 | |||||||||||||
Rownd yr 16
[golygu | golygu cod]Am y tro cyntaf ers i'r twrnament ymestyn i 32 tîm llwyddodd pob un o enillwyr y grwpiau i gyrraedd rownd yr wyth olaf, sef pedwar o dimau UEFA, tri o CONMEBOL ac un o CONCACAF. Roedd angen amser ychwanegol ym mhump o'r gemau ac roedd angen ciciau o'r smotyn yn nwy o'r rhain. Llwyddodd Colombia a Costa Rica i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes, gyda Gwlad Belg yn cyrraedd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 1986. Roedd pedwar cyn bencampwr - Brasil, Ffrainc, Yr Almaen a'r Ariannin - ymysg yr wyth olaf, ynghyd â'r Iseldiroedd, sydd wedi colli yn y rownd derfynol ar dair achlysur.
28 Mehefin 2014 17:00 |
Brasil | 1 – 1 (w.a.y.) | Tsile |
---|---|---|
David Luiz 18' | (Saesneg) Adroddiad | Sánchez 32' |
Ciciau o'r Smotyn | ||
David Luiz Willian Marcelo Hulk Neymar |
3–2 | Pinilla Sánchez Aránguiz Díaz Jara |
29 Mehefin 2014 17:00 |
yr Iseldiroedd | 2 – 1 | Mecsico |
---|---|---|
Sneijder 88' Huntelaar 90+4' (c.o.s.) |
(Saesneg) Adroddiad | dos Santos 48' |
29 Mehefin 2014 21:00 |
Costa Rica | 1 – 1 (w.a.y.) | Groeg |
---|---|---|
Ruiz 52' | (Saesneg) Adroddiad | Sokratis 90+4' |
Ciciau o'r Smotyn | ||
Borges Ruiz González Campbell Umaña |
5-3 | Mitroglou Christodoulopoulos Holebas Gekas |
30 Mehefin 2014 21:00 |
yr Almaen | 2 – 0 (w.a.y.) | Algeria |
---|---|---|
Schürrle 92' Özil 120' |
(Saesneg) Adroddiad | Djabou 120+1' |
1 Gorffennaf 2014 21:00 |
Gwlad Belg | 2 – 1 (w.a.y.) | UDA |
---|---|---|
De Bruyne 93' Lukaku 105' |
(Saesneg) Adroddiad | Green 107' |
Rownd yr Wyth Olaf
[golygu | golygu cod]Am y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd llwyddodd pob un o enillwyr y grwpiau i gyrraedd rownd yr wyth olaf. Llwyddodd Yr Almaen i drechu Ffrainc 1-0 a chyrraedd y rownd gynderfynol am y pedwerydd cystadleuaeth o'r bron a llwyddodd Brasil i guro Colombia 2–1, ond bydd Neymar yn colli gweddill y gystadleuaeth wedi iddo ddioddef anaf yn ystod y gêm. Cyrhaeddodd Yr Ariannin y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1990 ar ôl curo Gwlad Belg 1-0. Ac am yr ail dwrnament yn olynol cyrhaeddodd Yr Iseldiroedd y rownd gynderfynol ar ôl ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn Costa Rica.
4 Gorffennaf 2014 21:00 |
Brasil | 2 – 1 | Colombia |
---|---|---|
Thiago Silva 7' David Luiz 69' |
(Saesneg) Adroddiad | Rodríguez 80' (c.o.s.) |
5 Gorffennaf 2014 21:00 |
yr Iseldiroedd | 0 – 0 (w.a.y.) | Costa Rica |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | ||
Ciciau o'r Smotyn | ||
Van Persie Robben Sneijder Kuyt |
4-3 | Borges Ruiz González Bolaños Umaña |
Rownd Gynderfynol
[golygu | golygu cod]Cafwyd y buddugoliaeth fwyaf yn hanes rowndiau terfynol Cwpan y Byd wrth i'r Almaen chwalu Brasil 7-1 a gwella ar fuddugoliaethau Yr Ariannin 6-1 Unol Daleithiau America (1930), Wrwgwái 6-1 Iwgoslafia (1930 a Gorllewin Yr Almaen 6-1 Awstria (1954). Dyma oedd colled fwyaf Brasil yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers colli 3-0 yn erbyn Ffrainc yn rownd derfynol 1998. Am y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd cafwyd gêm ddi-sgôr mewn rownd derfynol wrth i'r Ariannin a'r Iseldiroedd orfod cymryd ciciau o'r smotyn i'w gwahanu. Llwyddodd Yr Ariannin i oroesi gan sicrhau eu bod yn cadw eu record 100% mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn dilyn buddugoliaethau ym 1978, 1986 a 1990 tra bo'r Iseldiroedd yn colli ar giciau o'r smotyn mewn rownd derfynol am yr ail dro ar ôl colli yn erbyn Brasil ym 1998.
8 Gorffennaf 2014 21:00 |
Brasil | 1 – 7 | yr Almaen |
---|---|---|
Oscar 90' | (Saesneg) Adroddiad | Müller 11' Klose 23' Kroos 24', 26' Khedira 29' Schürrle 69', 79' |
9 Gorffennaf 2014 21:00 |
yr Iseldiroedd | 0 – 0 (w.a.y.) | yr Ariannin |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | ||
Ciciau o'r Smotyn | ||
Vlaar Robben Sneijder Kuyt |
2-4 | Messi Garay Agüero Rodríguez |
Trydydd Safle
[golygu | golygu cod]Gorffennodd Yr Iseldiroedd yn drydydd wrth drechu Brasil 3-0 yng ngêm y trydydd safle. Ildiodd Brasil 14 o goliau yn ystod y gystadleuaeth - record nid yn unig i Frasil, ond i unrhyw dîm cartref. Dyma'r nifer uchaf o goliau i unrhyw dîm ildio ers i Wlad Belg ildio 15 gôl yn ystod Cwpan y Byd 1986[19].
12 Gorffennaf 2014 21:00 |
Brasil | 0 – 3 | yr Iseldiroedd |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | Van Persie l3' (c.o.s.) Blind 17' Wijnaldum 90+1' |
Rownd Derfynol
[golygu | golygu cod]Enillwyr Cwpan y Byd 2014 |
---|
Yr Almaen Pedwerydd Pencampwriaeth |
Ystadegau
[golygu | golygu cod]Sgorwyr
[golygu | golygu cod]6 gôl
|
5 gôl
|
4 gôl
|
|
|
3 gôl
|
|
|
2 gôl
|
|
|
1 gôl
Gôl i'w rwyd ei hun
- Sead Kolašinac (Bosnia a Hercegovina) (yn erbyn Yr Ariannin)
- Marcelo (Brasil) (yn erbyn Croatia)
- John Boye (yn erbyn Portiwgal)
- Noel Valladares (yn erbyn Ffrainc)
- Joseph Yobo (yn erbyn Ffrainc)
Goliau
[golygu | golygu cod]- Nifer o goliau: 171
- Cyfartaledd goliau pob gêm: 2.67
- Sawl hat-tric: 2
Thomas Müller, Xherdan Shaqiri
- Sgorio dwy gôl mewn un gêm: 14
Karim Benzema, Toni Kroos, Mario Mandžukić, Jackson Martínez, Lionel Messi, Ahmed Musa Neymar (2), Robin van Persie, Arjen Robben, James Rodríguez, André Schürrle Luis Suárez, Enner Valencia
- Ciciau o'r smotyn wedi eu dyfarnu: 13
- Ciciau o'r smotyn wedi eu sgorio: 12
Xabi Alonso, Karim Benzema, Edinson Cavani, Juan Guillermo Cuadrado, Sofiane Feghouli, Klas-Jan Huntelaar, Mile Jedinak, Thomas Müller, Neymar, Robin Van Persie, James Rodríguez, Georgios Samaras
- Ciciau o'r smotyn wedi eu methu: 1
- Nifer fwyaf o goliau gan dîm: 18
- Nifer fwyaf o goliau gan unigolyn: 6
- Nifer fwyaf o goliau wedi eu hildio: 14
- Nifer lleiaf o goliau wedi eu hildio: 2
Gwlad Belg, Colombia, Costa Rica, Ffrainc
- Nifer fwyaf o goliau mewn un gêm: 8
- Bwlch buddugoliaeth fwyaf: 6 gôl
- Nifer fwyaf o lechi glan gan dîm: 3
Costa Rica, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Ariannin
Cardiau Coch
[golygu | golygu cod]- Alex Song (yn erbyn Croatia)
- Oscar Duarte (yn erbyn Groeg)
- Ante Rebić (Croatia) (yn erbyn Mecsico)
- Konstantinos Katsouranis (yn erbyn Japan)
- Steven Kefour (yn erbyn De Corea)
- Antonio Valencia (Ecwador) (yn erbyn Ffrainc)
- Wilson Palacios (yn erbyn Ffrainc)
- Pepe (yn erbyn Yr Almaen)
- Maxi Pereira (Wrwgwái) (yn erbyn Costa Rica)
- Claudio Marchisio (Yr Eidal) (yn erbyn Wrwgwái)
Arian Gwobrwyo
[golygu | golygu cod]Cadarnhaodd FIFA bod US$576 miliwnar gael yn arian gwobrwyo (gan gynnwys US$70 miliwn ar gael i glybiau sydd â chwaraewyr yn chwarae yn y gystadleuaeth[20]. Roedd pob un o'r 32 o wledydd yn cael US$1.5 miliwn cyn y gystadleuaeth er mwyn paratoi a bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu fel y ganlyn:
- US$8 miliwn – I'r timau sy'n methu camu allan o'r grŵp (16 tîm)
- US$9 miliwn – I'r timau sy'n colli yn Rownd yr 16 (8 tîm)
- US$14 miliwn – I'r timau sy'n colli yn Rownd yr Wyth Olaf (4 tîm)
- US$20 miliwn – Pedwerydd safle
- US$22 miliwn – Trydydd safle
- US$25 miliwn – Ail safle
- US$35 miliwn – Enillydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Goal-line technology in the spotlight at Maracana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-17. Cyrchwyd 2014-07-02. Unknown parameter
|puiblished=
ignored (help) - ↑ "2014 World Cup to be held in South America". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-18. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Brazil confirmed as 2014 hosts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-29. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Fifa qualifiers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-16. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Fifa Qualifiers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-16. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Bahamas withdraw from 2014 World Cup qualifiers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-08. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Mauritius out of Brazil 2014 qualifying". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-17. Cyrchwyd 2014-06-11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "World Cup seeds to be based on Hydref world ranking". Espn Fc. 2013-10-04. Cyrchwyd 12 Ionawr 2014.
- ↑ "Iran 0-0 Nigeria: Super Eagles play out World Cup's first goalless draw". 2014-06-16. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Group stage goal glut brightens World Cup". Deutsche Welle. 2014-06-26.
- ↑ "World Cup 2014: Statistical XI versus your tournament XI". 2014-0627. Unknown parameter
|published=
ignored (help); Check date values in:|date=
(help) - ↑ Yorke, Graeme (2014-06-24). "Spanish newspaper Marca react to early elimination from World Cup". Daily Mail.
- ↑ World Cup. "World Cup 2014: The shock of Spain's exit is still painfully raw but tiki-taka is not dead and new generation will arise". Telegraph. Cyrchwyd 2014-06-24.
- ↑ "England eliminated from World Cup in earliest exit since 1958". Huffingtonpost.com. 2014-06-20.
- ↑ "Italy's coach Prandelli offers to resign after exit". IBN Live. 2014-0625. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-28. Cyrchwyd 2014-06-30. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ 16.0 16.1 "Europe wakes up and smells the Brazilian coffee". Insideworldfootball.com. 2014-06-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-01. Cyrchwyd 2014-06-30.
- ↑ "History made for Algeria and Africa". eNews Channel Africa. 2014-06-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-09. Cyrchwyd 2014-06-30.
- ↑ "Asian teams sink to the bottom". The Hindu. 2014-06-27.
- ↑ "Brazil0-3 Netherlands". 2014-07-12. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "World Cup money pot increased to $576m". 2013-12-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-19. Cyrchwyd 2014-07-04. Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]Gwefan swyddogol (Saesneg)
|