Chwarren bitwidol
Gwedd
Mae'r chwarren bitwidol (neu'r hypoffeisis) yn un o'r chwarrennau endocrin - tua'r un faint â phusen. O ran siap, mae'n ymwthio allan o waelod yr hypothalmws ar waelod isaf yr ymennydd. Saif yn y fosa' o fewn asgwrn y sffenoid.
Mae'n secredu (neu'n chwysu) hormonau gan reoli'r homeostasis, gan gynnwys yr hormonnau sy'n ysgogi chwarrennau endocrin eraill. Mae'n cysylltu i'r hypothalmws drwy'r 'median eminence'.
Pwrpas
[golygu | golygu cod]Pwrpas yr hormonnau pitwidol ydy rheoli rhai o'r prosesau hyn:
- Datblygiad y corff dynol
- Pwysau gwaed
- Rhai agweddau o feichiogrwydd a genedigaeth
- Llaeth y fron
- Yr organau rhyw
- Chwarrennau'r theiroid
- Trosglwyddo ynni o fwyd yn ynni metabolig
- Rheoli dŵr ac osmolaredd yn y corff