Cennard Davies
Cennard Davies | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ebrill 1937 Treorci |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro |
Mae Cennard Davies (ganwyd 17 Ebrill 1937) yn ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, a dysgu Cymraeg fel ail-iaith i oedolion yn arbennig. Fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'w fro ac i'r iaith Gymraeg, rhoddwyd iddo'r fraint o fod yn Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Magwyd Davies yn Nhreorci yng Nghwm Rhondda, ac mae wedi byw yn y dref erioed, oni bai am gyfnodau ym Mhrifysgol Abertawe a blwyddyn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Ar ôl graddio fe ddychwelodd i’w hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro, cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon.
Mae'n briod â Mary (neé Lawson) a fagwyd yn Ynys-wen yn y Rhondda ac mae ganddynt ddau blentyn. Mae eu merch, Branwen Cennard, yn gynhyrchydd teledu a fu hefyd yn ymgeisydd gyda Phlaid Cymru.[2][3] Bu eu mab, Rhys Cennard Davies, yn hyfforddwr Pro golff yng nghlwb golff yr Eglwys Newydd, Caerdydd am flynyddoedd.
Gyrfa dysgu Cymraeg
[golygu | golygu cod]Fe dreuliodd weddill ei yrfa wedi ei gyfnod yng Ngholeg y Barri yn dysgu Cymraeg i oedolion, gan gynnwys dysgu cenedlaethau o drigolion yr ardal ar gyrsiauq dwys.
Daeth yn bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg, ond mae hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu dysgu Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol.
Roedd ymhlith y tiwtoriaid a oedd yn gyfrifol am greu, a chyflwyno, y gyfres Catchphrase ar BBC Radio Wales[1] a'r gyfres 'Croesi'r Bont' ar deledu BBC Cymru gyda'r cyflwynwyr Hywel Gwynfryn a Mair Robbins (Y Diliau) yn cyflwyno yn yr 1970au.[4] Bu hefyd yn gyfrifol am ddatblygu'r Linguaphone Cymraeg gyda Basil Davies.
Roedd Davies yn ddefnyddio Cymraeg Byw, sef ymdrech ar safon newydd i'r Gymraeg a ddysgwyd i ddysgwyr y Gymraeg.[5]
Gyrfa ymgyrchu
[golygu | golygu cod]Roedd Davies yn un o sylfaenwyr ardal Dysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn un o’r arloeswyr cynnar yn Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
Bu’n gadeirydd Mudiad Meithrin yn yr 1970au ac ymgyrchodd i sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Fel rhan o'i ymrwymiad i ddatblygu addysg Gymraeg mae'n Lywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg.
Bu’n olygydd ‘Y Gloran’, papur bro'r Rhondda am ddegawdau, yn gynghorydd Plaid Cymru dros Dreorci ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Hermon, Treorci a, chyn hynny, yn asiant i Vic Davies bu bron â chipio Etholaeth Gorllewin y Rhondda mewn is-etholiad enwog ar ddiwedd yr 1967au.[6][7]
Cyfraniad
[golygu | golygu cod]Disgrifiwyd cyfraniad Cennard Davies gan Helen Prosser, fel "dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan". Ychwanegodd bod "ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy".[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Cennard Davies wedi ysgrifennu sawl llyfr yn ymwneud â'r Gymraeg a dysgu Cymraeg:[8]
- Torri'r Garw - Cennard Davies, Gwasg Gomer, 1996, ISBN 9781859023723
- Lluniau Llafar - Cennard Davies Gwasg Gomer, 1996, ISBN 9780850887822
- Y Geiriau Bach - Idioms for Welsh Learners - Cennard Davies, Gwasg Gomer, 1997, ISBN 9780862438661
- Cyfres Hwylio 'Mlaen: Y Gymraeg Ddoe a Heddiw - awdur Cennard Davies, golygydd Glenys M. Roberts, Y Lolfa, 1999, ISBN 9780862435028 [9]
- Cryno-ddysg y Cymry: An Introduction to Commonly Used Proverbs, Idioms and Idiomatic Phrases for Welsh Learners - Cennard Davies, Gwasg Prifysgol Cymru, 2002, ISBN 9780708317754
- Hiwmor y Cymoedd - Cennard Davies, rhan o gyfres 'Ti'n Jocan' Gwasg y Lolfa, 2011, ISBN 9781847713254 [10]
- It's Wales the Welsh Language - Cennard Davies Gwasg Y Lolfa, 2015, ISBN 0862438667
- Dros y Bont - Cennard Davies, Gwasg Gomer, 1995 ISBN 9780850882117
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Mae Cennard Davies wedi derbyn sawl anrhydedd fel teyrnged a gwerthfawrogiad i'w gyfraniad at hybu a datblygu dysgu Cymraeg i oedolion.
- 2008 - Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas - yn Eisteddfod Caerdydd 2008
- 2014 - Cymrawd yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Llywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cennard Davies yw Llywydd yr Ŵyl Bywgraffiad byr ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol 2024
- Atgofion Cennard Davies ar Casgliad y Werin Cymru lle mae'n trafod Streic y Glowyr (1984–85), Refferendwm Datganoli 1997, Rygbi Cymru yn yr 1970au, a choroni Brenhines Elisabeth II.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Cennard Davies yw Llywydd Prifwyl Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 10 Mehefin 2024.
- ↑ "Branwen Cennard". IMDb. Cyrchwyd 11 Medi 2024.
- ↑ "Caru'r Cymoedd: Branwen Cennard". Golwg360. 1 Awst 2024.
- ↑ "Croesi'r Bont". BBC Programme Index Sunday 6 February 1972. Cyrchwyd 16 Medi 2024.
- ↑ "Davies, Cennard, "Cymraeg Byw", in: Martin J. Ball (ed.), The use of Welsh: a contribution to sociolinguistics, 36, Clevedon, Philadelphia: Multilingual Matters, 1988. 200–210". Codex. Cyrchwyd 11 Medi 2024.
- ↑ "Cennard Davies yw Llywydd yr Ŵyl". Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 10 Mehefin 2024.
- ↑ 1967 Rhondda By-election, Gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, http://www.hanesplaidcymru.org/wp-content/uploads/2018/12/1967-Rhondda-By-election-Ak.pdf, adalwyd 12 Medi 2024
- ↑ "Books by Cennard Davies". World of Books. Cyrchwyd 11 Medi 2024.
- ↑ "Cyfres Hwylio 'Mlaen: Gymraeg Ddoe a Heddiw, Y (Paperback)". Waterstones. Cyrchwyd 11 Medi 2024.
- ↑ "Hiwmor y Cymoedd rhan o gyfres Ti' Jocan". Gwefan Y Lolfa. Cyrchwyd 11 Medi 2024.