Neidio i'r cynnwys

Rhondda Cynon Taf

Oddi ar Wicipedia
Rhondda Cynon Taf
Clocwedd o'r brig: Mynydd Maerdy ger Maerdy, glan afon ger Aberpennar, ac Eglwys y Santes Gatrin ym Mhontypridd
Mathprif ardal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Rhondda, Afon Cynon, Afon Taf Edit this on Wikidata
PrifddinasCwm Clydach Edit this on Wikidata
Poblogaeth240,131 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iNürtingen, Wolfenbüttel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd424.1503 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDinas a Sir Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Powys, Castell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.65°N 3.44°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000016 Edit this on Wikidata
GB-RCT Edit this on Wikidata
Map

Bwrdeistref sirol yn ne Cymru yw Rhondda Cynon Taf. Daeth i fodolaeth gydag adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996. Mae'n ffinio â Merthyr Tudful a Chaerffili yn y dwyrain, Caerdydd a Bro Morgannwg yn y de, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn y gorllewin, a Phowys yn y gogledd. Y prif drefi yw Aberdâr, Aberpennar a Phontypridd.

Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn dangos bod 19.1% o’i 234,410 o drigolion yn hunan-nodi bod ganddynt rywfaint o allu yn y defnydd o’r Gymraeg.[1] Mae'r fwrdeistref sirol yn ffinio â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdeistref Sirol Caerffili i'r dwyrain, Caerdydd a Bro Morgannwg i'r de, Bwrdeistref Sirol Pen- y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot i'r gorllewin a Phowys i'r gogledd. Ei phrif drefi yw Aberdâr, Llantrisant, Tonysguboriau, Phontypridd, a cheir trefi eraill gan gynnwys - Maerdy, Glynrhedynog, Hirwaun, Llanharan, Aberpennar, Porth, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci.

Y dref unigol fwyaf poblog yn Rhondda Cynon Taf yw Aberdâr gyda phoblogaeth o 39,550 (2011), ac yna Pontypridd gyda 32,694 (2011). Yr ardal drefol fwyaf fel y’i diffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw ardal Tonypandy, gyda phoblogaeth o 62,545 (2011), sy’n cynnwys llawer o Gwm Rhondda.[2]

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf yn 2024, wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith o 2022 oherwydd y Gofid Mawr.[3]

Ffurfiwyd y fwrdeistref sirol ar 1 Ebrill 1996, trwy uno hen gyghorau Dosbarth Morgannwg Ganol, sef Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-Elái (ac eithrio Creigiau a Phentyrch, a ychwanegwyd at Gaerdydd). Mae ei henw'n adlewyrchu'r rhain i gyd, ac felly hefyd afonydd Rhondda, Cynon a Thaf. Pontypridd, sy'n dref prifysgol ac yn Dref Farchnad, yw prif dref Rhondda Cynon Taf; ac mae wedi'i lleoli 12 milltir i'r gogledd o'r brifddinas, Caerdydd. Mae Pontypridd yn aml yn cael ei dalfyrru fel “Ponty” yn y Saesneg.

Diwydiant

[golygu | golygu cod]

Datblygodd yr ardal wedi i fwyngloddwyr ddarganfod glo Cymreig o'r safon uchel, fel glo ager, er mwyn eu hallforio i'r byd drwy ddociau Caerdydd a’r Barri. Roedd tomenni gwastraff glo a phennau pyllau glo dwfn o un gorwel i'r llall am rai canrifoedd. Ceir tai teras ar y llethrau, golygfa sy'n nodedig i gymoedd megis y Rhondda a Chwm Cynon. Yn 19g roedd gan y Rhondda dros 60 o fwyngloddiau.

Wrth i byllau dwfn gau, crëwyd nifer o byllau glo brig mawr iawn ac mae rhai'n parhau i weithredu, yn enwedig tua gogledd yr ardal.

Roedd Awdurdod Datblygu Cymru, a ffurfiwyd ym 1976 i helpu gwrthdroi’r dirywiad economaidd yng Nghymru a achoswyd gan y dirwasgiad yn y diwydiannau glo a dur, yn weithgar iawn yn ardal Rhondda Cynon Taf yn cefnogi ac yn annog adfywio diwydiant a masnach.[angen ffynhonnell] Erbyn 2024 roedd yma Stiwdios Ffilm Rhyngwladol y Ddraig, ar safle gwaith glo brig Llanilid. Mae lleoliad y prosiect wedi ei arwain i gael ei adnabod yn lleol fel "Valleywood", er bod cymoedd Cymru rai milltiroedd i ffwrdd.

Amgylchedd

[golygu | golygu cod]

Mae’r diwydiant glo wedi cael effeithiau andwyol iawn ar ansawdd yr amgylchedd, fel bod y rhan fwyaf o’r afonydd wedi’u llygru’n ddifrifol fel nad oes pysgod ynddyn nhw, ar y cyfan. Mae'r degawdau diwethaf wedi dangos gwelliant gyda'r eog yn dychwelyd i rai afonydd ee Afon Taf ac Afon Rhondda.

Llywodraeth

[golygu | golygu cod]

Mae’r ardal yn cael ei llywodraethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o’r pencadlys ym Mhontypridd a hi yw’r awdurdod sy’n cynnal Rhaglen Gwella Cydweithredol De-ddwyrain Cymru (SEWIC), enillydd gwobr Rhagoriaeth Cymru 2010. Ceir pedair etholaeth sy'n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Cynrychiolwyd Rhondda Cynon Taf gan bedwar AS yn Senedd y DU tan 2024.

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]
  • Syr Tom Jones —Trefforest, Pontypridd—canwr, a adnabyddid i rai yn lleol wrth ei enw genedigol, Tommy Woodward
  • Neil Jenkins — Pentre'r Eglwys, ger Pontypridd — chwaraewr rygbi undeb Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon
  • Kelly Jones — Cwmaman — prif leisydd a phrif gitarydd y band roc y Stereophonics
  • Gwasanaethodd y Barwn Merlyn Rees (1920-2006) — Cilfynydd, ger Pontypridd — fel Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon (1974–1976) ac Ysgrifennydd Cartref (1976–1979)
  • Syr Geraint Evans (1922–1992) — Cilfynydd, ger Pontypridd — canwr opera llais bas

Gefeillio

[golygu | golygu cod]

Y trefi sydd â threfniadau gefeillio yn Rhondda Cynon Taf yw:

  • Pontypridd:Nürtingen, Baden-Württemberg, yr Almaen
  • Aberdâr:Ravensburg, Baden-Württemberg, yr Almaen
  • Llantrisant: Crecy-en-Ponthieu, Picardy, Ffrainc

Rhyddid y Fwrdeistref

[golygu | golygu cod]

Mae'r bobl a'r unedau milwrol canlynol wedi derbyn Rhyddid Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2021, mae grwpiau ethnig y fwrdeistref sirol fel a ganlyn:

Grŵp ethnig Canran
Gwyn 96.7%
Asiaidd 1.5%
Cymysg 1.0%
Du 0.4%
Arall 0.3%

Crefydd

[golygu | golygu cod]

Yng Nghyfrifiad 2021, mae cyfansoddiad crefyddol y fwrdeistref sirol fel a ganlyn:

Crefydd Canran
Dim crefydd 56.2%
Cristionogaeth 36.4%
Islam 0.6%
Arall 0.5%
Bwdhaeth 0.2%
Hindwaeth 0.2%
Sikhaeth 0.1%
Iddewiaeth 0.1%
Heb ei nodi 5.8%

Cymunedau

[golygu | golygu cod]

Rhennir y fwrdeistref yn 39 o gymunedau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Population Density, 2011". Office for National Statistics. neighbourhood.statistics.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 3 Ionawr 2014.
  2. "Tonypandy built-up area". NOMIS. Office for National Statistics. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
  3. "Covid: Wales' National Eisteddfod postponed until 2022". 26 Ionawr 2021 – drwy www.bbc.co.uk.
  4. "Tenor granted freedom of borough". WalesOnline. 31 Ionawr 2008.
  5. Best, Jessica (10 April 2013). "Award-winning columnist Elaine Morgan given the freedom of Rhondda Cynon Taf". WalesOnline.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]