Breuan
Math | offeryn carreg, hand mill, grinding equipment |
---|---|
Yn cynnwys | saddle quern, muller, grain rubber |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Erfyn carreg a ddefnyddid er mwyn melino ystod eang o ddeunyddiau â llaw oedd y freuan. Caent eu defnyddid mewn parau, gydag un garreg sefydlog ar y gwaelod, ac un ar ei phen a gâi ei throelli. Cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf yn yr oes Neolithig er mwyn melino grawnfwydydd yn flawd. [1]
Enghreiffitiau unigol
[golygu | golygu cod]- Cafwyd darn o freuan yng nghloddfa Oes yr Haearn yn nyffryn Abergwyngregyn yn 2007.
Mathau o freuan
[golygu | golygu cod]Mae dau faen yn ofynnol i wneud par o feini y felin hon. Mae'r isaf yn grwbi a'r uchaf yn geuol, yr hwn a roddir am yr isaf fel dodi het am ben. Mae y meini cyntefig at faint meipen go fawr, neu ben dyn, ac eraill diweddarach yn debyg i faen llifo bychan, ac eraill diweddarach eto yn meddu rhychau i gario y blawd allan, fel meini y melinau dwfr presennol. Ceir hwynt yn y mynydd a'r hendref, ac yn fynychaf yn nghytiau crynion y ddau le, ac wrth ffosio, dyfndroi y tir, neu ladd mawn. Caed amryw o bryd i bryd yn mawnogydd Gwaen Gynfi, Deiniolen.[1]