Bill Evans
Gwedd
Bill Evans | |
---|---|
Ganwyd | William John Evans 16 Awst 1929 Plainfield |
Bu farw | 15 Medi 1980 Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Warner Bros. Records, Concord Records, Fantasy Records, Riverside |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | jazz pianist, cyfansoddwr, arweinydd, arweinydd band |
Adnabyddus am | Waltz for Debby, Peace Piece |
Arddull | jazz, modal jazz, cool jazz, post-bop |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes |
Pianydd Jazz oedd Bill Evans (16 Awst 1929 – 15 Medi 1980).
Daeth i'r amlwg fel rhan o fand Miles Davis yn ystod 1958 ac 1959, gan chwarae ar record arloesol Davis Kind of Blue. Ar ôl gadael Davis aeth ymlaen i gael gyrfa llwyddiannus a dylanwladol o dan ei enw ei hunan. Roedd ei arddull ar y piano yn rhamantaidd ac yn fynegiannol, gan gyflwyno elfennau harmonïol cymhleth o gerddoriaeth clasurol.
Bu farw yn 1980 ar ôl hanes hir o broblemau gyda chyffuriau, a ddechreuodd yn ystod ei gyfnod ym mand Miles Davis.
Mae'n brif gymeriad y llyfr Intermission gan yr awdur Cymreig Owen Martell, sy'n disgrifio cyfnod ei fywyd yn 1961 yn dilyn marwolaeth y chwaraewr bas dwbl Scott LaFaro, a fu'n rhan o driawd Evans.
Recordiau (detholiad)
[golygu | golygu cod]- New Jazz Conversations, 1956
- Everybody Digs Bill Evans, 1958
- Waltz for Debby, 1961