Baner Ynysoedd Cook
Gwedd


Baner o faes glas gyda Baner yr Undeb yn y canton a chylch o bymtheg o sêr yn y fly yw baner Ynysoedd Cook. Cynrychiola'r sêr bymtheg prif ynys y diriogaeth; fe'u gosodir mewn cylch i ddangos bod pob ynys yr un mor bwysig a'i gilydd. Daw'r ysbrydoliaeth am ddyluniad y faner o gysylltiadau'r ynysoedd gyda'r Gymanwlad (mae Ynysoedd Cook yn rhan o Deyrnas Seland Newydd).
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)