Baner Awstralia
Gwedd






Mae gan faner Awstralia Jac yr Undeb yn y canton (sy'n cofio cysylltiadau trefedigaethol y wlad â Phrydain) a phum seren wen – i gynrychioli'r cytser Crux (y Groes Ddeheuol) fel mae'n ymddangos o Awstralia – a seren wen fwy ar wahân, ar faes glas. Mae gan bob un o sêr y groes saith pwynt, ar wahân i'r un lleiaf (Epsilon Crucis) sydd â phump. O dan Jac yr Undeb mae seren fawr (Seren y Gymanwlad) i gynrychioli aelodau'r ffederasiwn. Yn wreiddiol, bu chwe phwynt ar gyfer y chwe thalaith ffederal; ychwanegwyd y seithfed pwynt yn 1909 i gynrychioli'r Diriogaeth Ogleddol.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)