Balthazar Johannes Vorster
Balthazar Johannes Vorster | |
---|---|
Ganwyd | 13 Rhagfyr 1915 Uitenhage |
Bu farw | 10 Medi 1983 Tref y Penrhyn |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | State President of South Africa, Prif Weinidog De Affrica |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Genedlaethol |
Gwobr/au | Order of Good Hope |
Gwleidydd o Dde Affrica a fu'n Brif Weinidog ac yna'n Arlywydd y wlad oedd Balthazar Johannes Vorster, a adnabyddid fel rheol fel John Vorster neu B.J. Vorster (13 Rhagfyr 1915 – 10 Medi 1983)
Ganed ef yn Jamestown, ac astudiodd yn Mhrifysgol Stellenbosch. O 1940 hyd 1953 bu'n gweithio fel cyfreithiwr. Roedd yn gwrthwynebu llywodraeth Prydain, ac oherwydd ei wrthwynebiad i'r ffaith fod De Affrica yn cymryd rhan yn yr Ail Ryfel Byd ar ochr Prydain, carcharwyd ef o fis Medi 1942 hyd Ionawr 1944.
Etholwyd ef i'r senedd yn 1953, a daeth yn is-weinidog yn 1958, ac yn weinidog yn 1961. Wedi i Hendrik Verwoerd, gael ei lofruddio yn 1966, olynodd Vorster ef fel Prif Weinidog. Yn y swydd yma, parhaodd gyda pholisïau Apartheid Verwoerd. Yn 1978 daeth yn Arlywydd, gyda P.W. Botha yn ei olynu fel Prif Weinidog. Yn 1979 bu raid iddo ymddiswyddo yn dilyn cyhuddiadau o afreoleidd-dra ariannol.