Neidio i'r cynnwys

Alan Davidson

Oddi ar Wicipedia
Alan Davidson
Ganwyd30 Mawrth 1924 Edit this on Wikidata
Derry Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 2003 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd, llenor, hanesydd Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad y Deyrnas Unedig i Laos Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Erasmus Edit this on Wikidata

Hanesydd bwyd a diplomydd o Brydain oedd Alan Eaton Davidson CMG (30 Mawrth 19242 Rhagfyr 2003). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y golygydd y gyfrol wyddoniadurol The Oxford Companion to Food (1999).

Ganwyd ym 1924 yn Derry, Gogledd Iwerddon. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog y Llynges Frenhinol. Wedyn, tra'n gweithio fel diplomydd yn y Swyddfa Dramor, treuliodd amser mewn llysgenadaethau o gwmpas y byd (Den Haag, Cairo, Tiwnis, Brwsel a Vientiane) a dechreuodd ymddiddori yn y bwydydd o wahanol ddiwylliannau; felly cychwynodd ar yrfa o ysgrifennu am hanes bwyd.

Enillodd Wobr Erasmus yn 2003.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) "Former Laureates: Alan Davidson". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 26 Mehefin 2017.