Afon Douro
Gwedd
Afon yn Sbaen a Portiwgal yw Afon Douro (Portiwgaleg: Douro, Sbaeneg: Duero). Mae'n tarddu ger Duruelo de la Sierra yn nhalaith Soria ac yn llifo am 897 km i gyrraedd y môr ger Porto.
Yn Sbaen, mae'n llifo ar draws meseta uchel Castilla y León, heibio trefi Soria, Almazán, Aranda de Duero, Tordesillas, Valladolid a Zamora, gyda Afon Pisuerga yn ymuno a hi ychydig i'r de o Valladolid. Am 112 km, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng Sbaen a Portiwgal. Wedi llifo i mewn i Bortiwgal, mae'n mynd heibio Miranda do Douro, Foz Côa, Peso da Régua, Lamego a Vila Nova de Gaia.