Un o ddinasoedd mwyaf Mesopotamia oedd Ctesiphon. Daw'r enw Lladin 'Ctesiphon' neu 'Ctesifon' o'r Groeg 'T(h)esifon' neu 'Et(h)esifon','Ktesiphon' mewn Groeg diweddarach. Safai ar lan ddwyreiniol Afon Tigris, gyferbyn a dinas Roegaidd Seleucia. Mae yn awr yn Iraq, tua 35 km i'r de o Baghdad.

Ctesiphon, 1921

Ctesiphon oedd prifddinas ymerodraeth Parthia a phrifddinas brenhinllin y Sassanid yn ddiweddarach. Yn y 6ed ganrif, hi oedd dinas fwyaf y byd. Yr unig olion sydd i'w gweld bellach yw bwa mawr Taq-i Kisra, yn y rhan sy'n awr yn dref Salman Pak.

Oherwydd ei phwysigrwydd strategol, bu llawer o ymladd o gwmpas Ctesiphon. Cipiwyd hi nifer o weithiau gan yr Ymerodraeth Rufeinig, yn fwyaf nodedig gan yr ymerawdwr Trajan yn 115. Dychwelwyd y ddinas i'r Parthiaid gan ei olynydd Hadrian yn 117 fel rhan o gytundeb heddwch. Cipiwyd hi eto gan y cadfridog Rhufeinig Avidius Cassius yn 164, ac yn 197, anrheithiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Septimius Severus, a werthodd filoedd o'r trigolion fel caethion. Lladdwyd yr ymerawdwr Julian mewn brwydr tu allan i'r muriau yn 363 yn ystod ei ryfel yn erbyn Shapur II.

Bu brwydr o gwmpas adfeilion Ctesiphon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan orchfygwyd byddin Brydeinig oedd yn ceisio cipio Baghdad gan fyddin yr Ymerodraeth Ottoman.