Neidio i'r cynnwys

cerdded

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Ceffyl yn cerdded.

Cynaniad

  • /ˈkɛrðɛd/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol kerðet o'r Gelteg *kerdeti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *kred- a welir hefyd yn y Lladin cardō ‘colfach’, yr Hen Roeg kradáō (κραδάω) ‘dw i'n siglo, yn chwifio’ a'r Sansgrit kūrdati (कूर्दति) ‘mae e/hi'n llamu’. Cymharer â'r Gernyweg kerdhes, y Llydaweg kerzhet a'r Hen Wyddeleg fo·cerdam ‘rydym ni'n taflu, yn bwrw’.

Berfenw

cerdded berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: cerdd-)

  1. Ymsymud yn barhaus trwy osod un troed o flaen y llall.
    Bu'n rhaid i mi gerdded adref am fy mod wedi colli'r bws.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau