Zeami Motokiyo
Gwedd
Zeami Motokiyo | |
---|---|
Ganwyd | c. 1363 Talaith Iga |
Bu farw | 1 Medi 1443 Japan |
Dinasyddiaeth | Japan |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, athronydd, llenor, actor llwyfan, impresario, cyfansoddwr, esthetegydd |
Tad | Kanami |
Plant | Motomasa Jūrō, iníon Zeami Motokiyo |
Perthnasau | Komparu Zenchiku |
Esthetegydd, actor a dramodydd o Japan oedd Zeami Motokiyo (Japaneg: 世阿弥 元清) (tua 1363 - tua 1443), neu Kanze Motokiyo (観世 元清). Cyflwynodd ei dad, Kan'ami, theatr Noh iddo pan oedd yn ifanc a sylweddoli mai actor medrus oedd ef. Wrth i gwmni theatr y teulu fynd yn fwy poblogaidd, cafodd Zeami'r cyfle i berfformio o flaen y siogwn Ashikaga Yoshimitsu. Gwnaeth yr actor argraff ar y siogwn a daeth yn gyfaill iddo. Cyflwynwyd Zeami i lys Yoshimitsu a derbyniodd addysg mewn llenyddiaeth glasurol ac athrawiaeth tra oedd yn parhau i actio. Ym 1374, noddwyd Zeami ac actio ddaeth yn brif swydd iddo. Ar ôl i'w dad farw ym 1384, ef arweiniodd cwmni'r teulu ac roedd ei yrfa'n fwy llewyrchus byth.