Ysglyfaethwr
Carnivora | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukaryota |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Inffradosbarth: | |
Uwchurdd: | Laurasiatheria |
Urdd: | Carnivora Bowdich, 1821 |
Teuluoedd | |
Felidae |
Mae mwy na 280 o rywogaethau o famal yn yr urdd Carnivora.[1] Mae'r mwyafrif yn gigysol fel teulu'r gath ac yn bwyta cig yn bennaf. Eithriad yw'r panda anferth sy'n bwyta blagur a dail yn bennaf. Hollysyddion yw rhai rhywogaethau fel yr eirth a'r llwynogod. Yng Nghymru ceir 7 cigysydd.
Mae ffurf penglog a dannedd yr anifeiliaid hyn yn arbennig.
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]- Urdd CARNIVORA
- Is-urdd Feliformia
- Teulu Felidae: cathod; 40 rhywogaeth
- Teulu Viverridae: cathod mwsg; 35 rhywogaeth
- Teulu Eupleridae: cigysyddion Madagasgar; 8 rhywogaeth
- Teulu Nandiniidae: cath fwsg y palmwydd; 1 rywogaeth
- Teulu Herpestidae: mongwsiaid; 33 rhywogaeth
- Teulu Hyaenidae: udfilod; 4 rhywogaeth
- Is-urdd Caniformia
- Teulu Canidae: cŵn; 35 rhywogaeth
- Teulu Ursidae: eirth, panda anferth; 8 rhywogaeth
- Teulu Otariidae*: morlewod a morloi manflewog; 16 rhywogaeth
- Teulu Odobenidae*: morlo ysgithrog neu walrws; 1 rywogaeth
- Teulu Phocidae*: gwir forloi; 19 rhywogaeth
- Teulu Mustelidae: ffured, brochod, dwrgwn a pherthnasau; 59 rhywogaeth
- Teulu Mephitidae: drewgwn; 11 rhywogaeth
- Teulu Procyonidae: racwniaid a pherthnasau; 14 rhywogaeth
- Teulu Ailuridae: panda coch; 1 rywogaeth
- Is-urdd Feliformia
* Ystyriwyd y teuluoedd hyn (y Pinnipedia) yn urdd gwahanol yn y gorffennol.
Cymru
[golygu | golygu cod]Ceir 7 cigysydd yng Nghymru: y llwynog, ffwlbart, carlwm, bele'r coed, gwenci, mochyn daear a dyfrgi.[2] Roedd y gath wyllt i'w gael hyd at yr 19g a'r blaidd hyd at y 18g.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wilson, D. E. a Reeder, D. M. (goln). 2005. Mammal Species of the World, 3ydd argraffiad, Gwasg Prifysgol Johns Hopkins
- ↑ "The carnivores of Wales", Nature in Wales, cyf. 1, rhif 1 (Gwanwyn 1955); o wefan LlGC