Y Llenor (1922-55)
Enghraifft o: | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1922 |
Lleoliad cyhoeddi | Wrecsam |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
- Am y cylchgrawn cynharach o'r un enw, gweler Y Llenor (1895-98).
Prif gylchgrawn beirniadaeth lenyddol Cymru yn ail charter yr 20g oedd Y Llenor. Cafodd ei sefydlu yn 1922 gyda'r ysgolhaig William John Gruffydd yn olygydd. Daeth i chwarae rhan allweddol yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Cyhoeddwyd y rhifyn olaf yn 1955.
Cyhoeddwyd saith rhifyn cyntaf y cylchgrawn gan Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol, Caerdydd, ac ar ôl hynny gan Hughes a'i Fab, Wrecsam.
Amcan Y Llenor, yn ôl W. J. Gruffydd, oedd "darparu a hyrwyddo'r diwylliant llenyddol uchaf, a rhoddi i lenorion Cymru le y cyhoeddir eu gwaith ar un amod yn unig, sef teilyngdod llenyddol". I'r perwyl hwnnw, cyhoeddwyd llu o erthyglau beirniadol a chreadigol gan rai o lenorion amlycaf y cyfnod, yn cynnwys Ambrose Bebb, R. G. Berry, Saunders Lewis, R. T. Jenkins, D. Myrddin Lloyd, D. Tecwyn Lloyd, T. H. Parry-Williams, Ffransis G Payne, Iorwerth C. Peate, Kate Roberts, a G. J. Williams, yn ogystal â W. J. Gruffydd ei hun.
Gadawodd Y Llenor fwlch mawr ym mywyd llenyddol y wlad ar ei ôl pan ddaeth i ben yn 1955. Yn 1961, fodd bynnag, dechreuwyd cyhoeddi Taliesin fel olynydd teilwng iddo.
Digidir Y Llenor gan brosiect Cylchgronau Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Beirniad (1911-1921)
- Taliesin