Y Gwledydd Cartref
Gwedd
Defnyddir y term y Gwledydd Cartref weithiau, yn aml yng nghyd-destun chwaraeon, i ddisgrifio tair gwlad y Deyrnas Unedig, sef yr Alban, Cymru a Lloegr, ynghyd â thalaith Gogledd Iwerddon, gyda'i gilydd ond ar wahân i ystyr y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth. Weithiau defnyddir y term i ddynodi'r Alban, Cymru, Lloegr ac Iwerddon (Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon) hefyd. Ni fyddai pawb yn derbyn cynnwys Gogledd Iwerddon gan nad ydyw yn wlad.