Y Cyngor Prydeinig
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhyngwladol, sefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, sefydliad addysgol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1934 |
Prif weithredwr | Ciarán Devane |
Sylfaenydd | Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
Aelod o'r canlynol | European Film Promotion |
Gweithwyr | 9,624, 10,596, 10,677, 10,963, 11,523 |
Isgwmni/au | British Council Czech Republic |
Ffurf gyfreithiol | menter sy'n eiddo i'r wladwriaeth, corff cyhoeddus anadrannol |
Pencadlys | Llundain |
Enw brodorol | British Council |
Gwefan | https://www.britishcouncil.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corfforaeth gyhoeddus ac elusen gofrestredig a chanddi Siarter Frenhinol yw'r Cyngor Prydeinig (Saesneg: British Council) sydd yn hyrwyddo diwylliant y Deyrnas Unedig a'r iaith Saesneg mewn gwledydd tramor ac yn cynnig cydweithio rhyngwladol ym meysydd y celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg, ac addysg. Mae ganddo hefyd statws corff cyhoeddus di-adran gweithredol (NDPB) a noddir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Lleolir ei bencadlys yn Sgwâr Trafalgar, Llundain. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill
[golygu | golygu cod]Mae'r Cyngor Prydeinig yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol