Tsieineaid Han
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Math | Chinese people ![]() |
Mamiaith | Tsieineeg ![]() |
Crefydd | Bwdhaeth, taoaeth, cristnogaeth, islam, conffiwsiaeth, parch i'r meirw, crefydd gwerin tsieina ![]() |
Rhan o | Sino-Tibetan peoples ![]() |
Rhagflaenydd | Huaxia (ethnicity) ![]() |
![]() |
Grŵp ethnig sy'n frodorion o Tsieina yw'r Tsieineaid Han. Ystyrir mai hwy yw grŵp ethnig mwyaf niferus y byd, gyda bron 20% o holl boblogaeth y byd yn perthyn i'r grŵp yma. Cyfeirir atynt yn aml yn syml fel Tsieineaid, ond ystyrir hyn yn anghywir.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4b/Shanghai_Old_Street.jpg/250px-Shanghai_Old_Street.jpg)
Mae Tsieineaid Han yn ffurfio bron 92% o boblogaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina, 98% o boblogaeth Taiwan (Gweriniaeth Tsieina) a 75% o boblogaeth Singapôr. Ceir hefyd niferoedd sylweddol mewn rhannau eraill o'r byd, megis De-ddwyrain Asia, Ewrop a'r Unol Daleithiau. Daw'r enw o enw Brenhinllin Han.
Yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, mae'r Tsieineaid Han yn y mwyafrif ymhob talaith a rhanbarth ymreolaethol heblaw Xinjiang (41% yn 2000) a Tibet (6% yn 2000).
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/Ethnolinguistic_map_of_China_1983.jpg/250px-Ethnolinguistic_map_of_China_1983.jpg)