Trwyth
Gwedd
Fel arfer, echdynnyn sylwedd planhigyn neu anifail a hydoddir mewn ethanol (alcohol ethyl) ydyw trwyth (neu tintur[1]). Mae crynodiadau hydoddydd o 25–60% yn gyffredin i drwythau, ond maent yn gallu bod mor grynodedig â 90%.[2] Mewn cemeg, mae trwyth yn doddiad sy'n cynnwys ethanol yn fel ei doddydd. Mewn llysieuaeth feddygol, gwneir trwythau alcoholig gyda gwahanol grynodiadau o ethanol, a ddylai gynnwys o leiaf 20% alcohol er mwyn eu cadw yn hirdymor.[2][3]
Yn y Gymraeg, y mae'r 'trwyth' Cymraeg hefyd yn gallu cyfeirio at infusion a decoction Saesneg. Fel arfer, mae infusions a decoctions yn defnyddio dŵr neu olew yn lle alcohol fel yr hydoddydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Nalewka, math o drwyth Pwylaidd alcoholig traddodiadol.
- Elicsir, paratoad fferyllol sy'n cynnwys cynhwysyn gweithredol a doddir mewn toddiant sy'n cynnwys rhyw ganran o alcohol ethyl.
- Echdynnyn
- Klosterfrau Melissengeist
- Spajyrig, eplesu, distyllu, ac echdynnu elfennau mwynol allan o blanhigion a galchynwyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ tintur. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Chwefror 2023.
- ↑ 2.0 2.1 Groot Handboek Geneeskrachtige Planten gan Geert Verhelst
- ↑ Ullian, Naomi (2016-09-19). "How To Make A Medicinal Mushroom Double-Extraction Tincture". Herbal Academy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-12.