Neidio i'r cynnwys

Titus

Oddi ar Wicipedia
Titus
Ganwyd30 Rhagfyr 0039 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 0081 Edit this on Wikidata
Aquae Cutiliae Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praetorian prefect, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadVespasian Edit this on Wikidata
MamDomitila'r Hynaf Edit this on Wikidata
PriodArrecina Tertulla, Marcia Furnilla Edit this on Wikidata
PartnerBerenice Edit this on Wikidata
PlantJulia Flavia, Flavia Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinlin Flavia, Flavii Sabini Edit this on Wikidata

Titus Flavius Vespasianus neu Titus (30 Rhagfyr 39 OC13 Medi 81 OC) oedd Ymerawdwr Rhufain o 24 Mehefin 79 OC hyd ei farwolaeth. Ganwyd Titus Flavius Vespasianus.

Titus oedd mab hynaf yr ymerawdwr Vespasian, a bu'n rhannu grym gydag ef am gyfnod. Ar farwolaeth ei dad daeth Titus yn ymerawdwr. Cyn i'w dad ddod yn ymerawdwr bu'n ymladd yn erbyn gwrthryfel yr Iddewon yn nhalaith Judea, a phan ddaeth Vespasian yn ymerawdwr a dychwelyd i Rufain gadawyd Titus i ddelio a'r gwrthryfel. Llwyddodd i gymeryd dinas Jerusalem ar ôl ei gwarachae am bum mis. Mae Bwa Titus yn Rhufain yn coffau ei fuddugoliaeth.

Yn ystod yr ymladd yn Judea syrthiodd Titus mewn cariad a Berenice, merch y brenin Herod Agripa I. Aeth a hi gydag ef i Rufain, ond oherwydd nad oedd poblogaeth Rhufain yn hapus ynglŷn â'r berthynas bu rhaid iddi roi'r gorau i'r syniad o'i phriodi. Eu perthynas yw thema'r ddrama "Titus a Berenice" gan Pierre Corneille a "Berenice" gan Jean Racine.

Daeth Titus yn boblogaidd iawn yn ystod ei deyrnasiad oherwydd ei haelioni. Ef oedd yn gyfrifol am orffen y gwaith ar y Colisewm, a gychwynwyd gan ei dad. Dilynwyd ef gan ei frawd Domitian.

Rhagflaenydd:
Vespasian
Ymerawdwr Rhufain
24 Mehefin 79 OC13 Medi 81 OC
Olynydd:
Domitian