Tesco
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig cyhoeddus |
ISIN | GB00BLGZ9862 |
Diwydiant | siopau cadwyn |
Sefydlwyd | 1919 |
Sefydlydd | Jack Cohen |
Pencadlys | Welwyn Garden City |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Refeniw | 54,433,000,000 punt sterling (2016) |
Incwm gweithredol | 1,046,000,000 punt sterling (2016) |
Perchnogion | Norges Bank (0.0619), Deutsche Bank (0.0528), BlackRock (0.0501), Schroders (0.05003) |
Nifer a gyflogir | 423,092 (2020) |
Is gwmni/au | Tesco Iwerddon |
Gwefan | https://www.tescoplc.com/, https://www.tesco.ie/, https://tesco.hu/, https://itesco.sk/, https://itesco.cz/ |
Mae Tesco Ccc yn gwmni rhyngwladol ac yn gadwyn o archfarchnadoedd sy'n gwerthu bwyd, dillad a nwyddau cyffredin. Tesco yw'r adwerthwr trydydd mwyaf yn y byd a'r mwyaf ym Mhrydain. Mae Tesco yn rheoli 30% o werthiant bwyd ym Mhrydain, sy'n gyfartal i ganran ei gystadleuwyr mwyaf, ASDA a Sainsbury's, wedi eu cyfuno. Yn 2007 datganodd y cwmni fuddion o £2.55 biliwn ar gyfer y flwyddyn honno.
Yn wreiddiol, arbenigo mewn gwerthu bwyd yn unig roedd Tesco, ond erbyn hyn maent wedi ehangu i werthu dillad rhad, nwyddau trydanol, gwasanaethau ariannol, gwerthu a rhentu DVDs a CDau, lawrlwytho cerddoriaeth, cyflenwi cysylltiad i'r we, cyflenwi gwasanaeth ffôn, yswiriant iechyd a deintyddol a meddalwedd rad. Maent yn bresennol yn camu i'r farchnad eiddo gyda gwefan o'r enw Tesco Property Market.