Terfysgoedd Lloegr, Awst 2011
Math o gyfrwng | ethnic riot, anrhaith, ysbeiliad, llosgi bwriadol |
---|---|
Dyddiad | Awst 2011 |
Lladdwyd | 5 |
Dechreuwyd | 6 Awst 2011 |
Daeth i ben | 11 Awst 2011 |
Lleoliad | Birmingham, Bryste, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain, Manceinion Fwyaf, Glannau Merswy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Terfysgoedd mewn nifer o ddinasoedd yn Lloegr yw terfysgoedd Lloegr, Awst 2011. Dechreuodd yn ardaloedd o Lundain, yn bennaf Tottenham, ar 6 Awst 2011 a sbardunwyd gan farwolaeth Mark Duggan, dyn 29 oed, ar 4 Awst wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu. Copïwyd yr anhrefn gan lafnau ifanc iawn drannoeth yn Wood Green, Enfield, Ponders End a Brixton. Roedd y Prif Weinidog David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, Maer Llundain Boris Johnson a'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ar eu gwyliau ar y pryd. Defnyddiodd y glaslanciau gyfryngau cymdeithasol megis y Blackberry a Twitter. Ymhlith y rhesymau tybiedig dros y terfysgoedd roedd diweithdra, pris bwyd a thoriadau mewn grantiau myfyrwyr a chlybiau ieuenctid.
Erbyn 8 Awst roedd y terfysg wedi ymledu drwy sawl rhan o Lundain; cafwyd tân anferthol mewn stordy carpedi yn Croydon a thanau ac "anarchiaeth" mewn ardaloedd eraill, er enghraifft Enfield a Ponders End, Walthamstow, Chingford Mount, Hackney a Peckham. Torrodd glaslanciau i mewn i siopau yn Birmingham, Manceinion, Lerpwl a Bryste a chafwyd terfysgoedd hefyd yn Leeds. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am ddod adref o'i wyliau er mwyn cynnal cyfarfod brys o Cobra.
Drannoeth y drin
[golygu | golygu cod]Drannoeth roedd terfysgwr Llundain yn gymharol dawel, a'r terfysgoedd yn datganoli i drefi megis Lerpwl lle ymosododd y terfysgwyr ar 4 injan dân. Cafwyd terfysgoedd hefyd yn West Bromwich, Salford, Wolverhampton, Nottingham, Birmingham, Caergrawnt, Washington yn Tyne a Wear a Manceinion lle arestiwyd 47 o laslanciau am ddifrodi siopau, dwyn eiddo a herio'r heddlu.
Ymhlith penawdau papurau newydd 10 Awst roedd penawdau fel: Anarchy Spreads (Telegraph) a Police Get Tough (Guardian) a oedd yn cyfeirio at yr alwad gan y cyhoedd a rhai aelodau seneddol i'r heddlu fod yn fwy llym.
Yn y dyddiau dilynol, agorodd rhai llysoedd ynadon eu drysau 24 awr y dydd er mwyn mesur a phwyso achosion y glaslanciau o'u blaenau. Erbyn 13 Awst, roedd 2,275 o bobl wedi'u harestio a thros 1,000 wedi'u cyhuddo o droseddau megis dwyn a difrodi eiddo.[1] Roedd pump wedi marw: un wedi'i saethu, tri wedi marw mewn damwain car yn ystod yr helnulon ac un hen ŵr wedi cael coblyn o gweir nes iddo farw.