Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái
Llysenw(au) |
Los Charrúas La Celeste (Y Gleisiaid) La Garra Charrúa | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Conffederasiwn | CONMEBOL (De America) | ||||||
Hyfforddwr | Óscar Tabárez | ||||||
Is-hyfforddwr | Celso Otero | ||||||
Capten | Diego Godin | ||||||
Mwyaf o Gapiau | Diego Forlán (112) | ||||||
Prif sgoriwr | Luis Suárez (44) | ||||||
Cod FIFA | URU | ||||||
Safle FIFA | 8 (4 Mai 2015) | ||||||
Safle FIFA uchaf | 2 (Mehefin 2012) | ||||||
Safle FIFA isaf | 76 (Rhagfyr 1998) | ||||||
Safle Elo | 10 (12 Chwefror 2014) | ||||||
Safle Elo uchaf | 1 (Sawl dyddiad 1920–31) | ||||||
Safle Elo isaf | 46 (Mawrth 1980) | ||||||
| |||||||
Gêm ryngwladol gynaf | |||||||
Wrwgwái 2–3 Yr Ariannin (Montevideo, Wrwgwái; 16 Mai 1901)[1] | |||||||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||||||
Wrwgwái 9–0 Bolifia (Lima, Periw; 9 Tachwedd 1927) | |||||||
Colled fwyaf | |||||||
Wrwgwái 0–6 Yr Ariannin (Montevideo, Wrwgwái; 20 Gorff. 1902) | |||||||
Cwpan FIFA y Byd | |||||||
Ymddangosiadau | 12 (Cyntaf yn 1930) | ||||||
Canlyniad gorau | Champions, 1930 a 1950 | ||||||
Copa America | |||||||
Ymddangosiadau | 41 (Cyntaf yn Pencampwriaethau De America 1916) | ||||||
Canlyniad gorau | Champions, Pencampwriaethau De America 1916, 1917, 1920, Pencampwriaethau De America 1923, Pencampwriaethau De America 1924, Pencampwriaethau De America 1926, Pencampwriaethau De America 1935, Pencampwriaethau De America 1942, Pencampwriaethau De America 1956, Pencampwriaethau De America 1959, Pencampwriaethau De America 1967, Copa América 1983, Copa América 1987, Copa América 1995 a Copa América 2011 | ||||||
Confederations Cup | |||||||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1997) | ||||||
Canlyniad gorau | Pedwerydd Safle, 1997 a 2013 | ||||||
Honours
|
Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái yw'r tîm sy'n cynrychioli Wrwgwái mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed Wrwgwái (Asociación Uruguaya de Fútbol).
Mae Wrwgwái wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith, y gystadleuaeth gyntaf yn 1930 ac eto yn 1950. Gyda phoblogaeth o tua 3.5 miliwn, Wrwgwái yw'r wlad leiaf i ennill Cwpan y Byd.
Ei llysenw yw La Celeste (awyr las) a Charrúa (enw ar lwyth frodorol Wrwgwái) a La Garra Charrúa (Crafanc y Charrua).
Hanes
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd tîm pêl-droed Wrwgwái eu gêm gyntaf ar 16 Mai 1901 yn y brifddinas, Montevideo yn erbyn tîm cenelaethol yr Ariannin - yr Archentwyr enilloedd y gêm, 2 i 3. Hyd at 1916, chwaraewyd cyfanswm o 30 o gemau, pob un ond un yn erbyn yr Ariannin. Y flwyddyn honno chwaraewyd twrnament gyntaf pêl-droed Copa America, gyda buddugoliaeth derfynol i Wrwgwái. Ni drechwyd y tîm cenedlaethol nes 1919 pan gollwyd i Brasil o 2 i 1.
Yn 1924, teithiodd y tîm cenedlaethol i Baris i gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Trechodd y tîm yr holl wrthwynebwyr Ewropeaidd gan ennill y fedal aur. Ail-adroddwyd y llwyddiant bedair blynedd yn ddiweddarach yn y Gemau Olympaidd yn Amsterdam ym 1928. Tîm Wrwgwái oedd tîm mwyaf llwyddiannus yr 1920au, ac eithrio timau proffesiynol Gwledydd Prydain oedd yn ynysig a gwrthod chwarae gemau rhyngwladol.
Yn sgîl y ddau fedal Olympaidd a gan fanteisio ar ganmlwyddiant annibyniaeth y wlad o Frasil, dewiswyd Wrwgwái i gynnal Cwpan y Byd cyntaf yn 1930. Parhaodd llwyddiant yr awyr glas wrth iddynt guro'r Ariannin o 4 i 2 yn y ffeinal.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, enillodd Wrwgwái Gwpan y Byd yn 1950 yn trechu Brasil yn y rownd derfynol yn stadiwm Maracanã - gêm a elwir y 'Maracanaço'. Ers hynny, dydy llwyddiant heb fod cystal â'r trideg mlynedd gyntaf. Cyrhaeddodd y tîm y 4ydd safle yn 1954 a 1970. Yn ystod y cyfnod hwn, fodd bynnag, llwyddodd i ennill chwe ptwrnament Copa America.
Daw dydd y bydd Mawr y rhai Bychain
[golygu | golygu cod]Mae llwyddiant Wrwgwái yn syfrannol o gofio maint y wlad gyda phoblogaeth o dim ond 3.5 miliwn o drigolion (ychydig yn fwy na Chymru). Wrwgwái yw'r wlad lleiaf o bell ffordd i ennill Cwpan y Byd. Y wlad 'leiaf' nesaf o ran poblogaeth yw'r Ariannin, gyda phoblogaeth o ychydig dros 40 miliwn o bobl. Pan enillodd y wlad ei Chwpan gyntaf yn y Byd, dim ond 2 filiwn oedd ei phoblogaeth. Wrwgwái hefyd yw'r genedl lleiaf i ennill medal yng Nghwpan y Byd; dim ond chwech gwlad sydd â phoblogaeth sydd ar hyn o bryd yn llai nag Wrwgwái sydd erioed wedi cymryd rhan yng Nghwpan y Byd: Gogledd Iwerddon (3 gwaith), Slofenia (dau), Cymru, Coweit, Jamaica a Trinidad a Thobago. Wrwgwái hefyd yw'r wlad lleiaf i ennill dwy fedal aur Olympaidd mewn chwaraeon tîm.
Esblygiad Cit y Tîm Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Mabwysiadwyd gwisg gyfredol tîm Wrwgwái 1910 yn anrhydedd i'r clwb coll, River Plate FC.
Cynhaliwyd y gêm ryngwladol gyntaf a gynhaliwyd gan dîm o Wrwgwái yn Montevideo ym 1889 yn erbyn tîm o Buenos Aires, y tîm yna oedd tîm Clwb Criced Montevideo (clwb rygbi ar hyn o bryd) oeddynt. Chwaraewyd gêm swyddogol gyntaf y tîm genedlaethol hefyd yn Montevideo a hynny yn 1901. Ar yr achlysur hwnnw, defnyddiodd tîm cenedlaethol Wrwgwái git pêl-droed Albion FC. Albion oedd y tîm gyntaf o Wrwgwái i guro tîm o'r Ariannin, sef Retiro ym 1896 ym Buenos Aires.
Rhwng 1901 a 1910, cafwyd sawl gêm rhwng Wrwgwái a'r Ariannin. Chwaraeodd Wrwgwái â chrys-t glas a gwyn gyda llinellau fertigol a'r Ariannin gyda glas glas golau,; sef yr union yr un cit a ddefnyddir heddiw, ond ar y timau gwahanol.
Mae pedair seren yn ymddangos ar fathodyn y tîm. Maent yn cynrychioli'r ddau Gwpan y Byd a enillwyd yn 1930 a 1950, a'r ddau fedal aur Olympaidd yn 1924 a 1928.
- (a) Cif Albion F.C.
- (b) Citiau amrywiol a wisgwyd nes 1910 pan fabwysiadwyr y glas golau yn derfynnol.
- (c) Seiliedig ar faner yr Artigas.
- (d) Cyflwynwyd fel cit oddi cartref oherwydd ffeinal Pencampwriaeth De America 1935 yn erbyn tîm cenedlaethol yr Ariannin.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pelayes, Héctor Darío (24 Medi 2010). "ARGENTINA-URUGUAY Matches 1902–2009". RSSSF. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2010.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwceleste
- ↑ ""Camisetas alternativas", La Selección website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-06. Cyrchwyd 2018-03-26.
|