Székely
Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Lleoliad | Gwlad y Székely |
Gwladwriaeth | Rwmania |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig Hwngareg yw'r Székely (ynganner: seːkɛj; Hwngareg: Székely, Rwmaneg: Secui' - sillafu gynt: Săcui', Almaeneg: Szekler; Cymraeg: Seceli hefyd yn Saesneg: Székeler), sy'n byw yn bennaf yn Szeklerland (Hwngareg: Székelyföld), ar hyd ffin ddwyreiniol Transylfania yn Rwmania gyfoes.[1][2] Yn hanesyddol, bu'r Szekleriaid yn warchodwyr ffiniau Ymerodraeth Hwngari yn erbyn yr Otomaniaid.[3] Yn yr Oesoedd Canol, roedd y Székely yn un o dair pobloedd breintiedig Transylfania, ynghyd ag uchelwyr Hwngari a'r Siebenburger Sachsenon (Sacsoniaid y Saith Mynydd - Almaenwyr ethnig yn ardal a elwir y Saith Mynydd, 'Siebenburgen' yn Almaeneg). Y Szeklerland, yr ardal y bu'r Székely yn byw ynddi yn hanesyddol, yw'r unig ardal bron lle mae'r Hwngareg yn fwyafrif yn heddiw.
I lawer o Székely, mae hunaniaeth Székely yn ategu hunaniaeth Hwngari. Mae'r rhan fwyaf o Székely yn teimlo'n Hwngareg o ran eu prif hunaniaeth, ac yn Székely'n ail. Mae cyfrifiadau Rwmania yn cynnig y posibilrwydd i gofrestru gyda'r grŵp poblogaeth "Szekler"; defnyddiodd cyfanswm o 150 o bobl hyn yn 2002. Cofrestrodd bron pawb o'r Székely fel "Hwngareg".
Gwreiddyn
[golygu | golygu cod]Mae amheuaeth ynghylch tarddiad y Szeklers, ond yn 1990 dangosodd dwyochrog genetig a gynhaliwyd gan Endre Czeizel eu bod yn wahanol o Hwngariaid. Mae'r dwyochrog wedi dangos eu bod agosaf at o Hwngariaid ac i bobloedd Iran. (pobloedd Iran: Scythites, Persian Sarmatas.)
Hanes
[golygu | golygu cod]Daw'r enw Székely o'r gair Hwngareg sy'n golygu "gwarchodwyr y ffin".[4]
Ceir cryn drafodaeth am darddiad y Székely. Derbynir yn gyffredinol bellach eu bod yn ddisgynyddion i'r Hwngariaid (neu pobloedd Twrceg oedd wedi eu cymhathu i'r diwylliant Hwngaraidd) oedd wedi eu trawsblannu i ddwyrain Mynyddoedd Carpatiau i amddiffyn y gororau, a dyna ystyr eu henw - "amddiffynwyr y ffin/gororau.".[4] Yn hanesyddol fe hawliodd y Székely eu bod yn ddisgynyddio i Hwniaid Attila[4] a credent iddynt chwarae rhan hanfodol wrth siapio Hwngari. Yn ôl chwedl gadawyd cyfran o Hyniaid yn Transylfania gan gynghreirio gyda'r fyddin Hwngareg wrth iddyn goncro basn y Carpatiau yn y 9g. Dywedodd y croniclydd Simon o K Kéza bod y Székely yn ddisgynyddion Hyniaid bu'n byw yn y mynyddoedd cyn y gongwest Hwngaraidd.[5]
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Yn ôl amcangyfrifon yn seiliedig ar y cyfrifiad diweddaraf yn Rwmania, mae tua 670,000 o Székely yn byw yn Rwmania, y mwyafrif ohonyn nhw yn siroedd Harghita, Covasna a rhannau o siroedd Mureș a Cluj (Szeklerland hanesyddol). Yn hanesyddol, roedd y Székely hefyd yn byw yn yr Aranyosszék yng nghanol Transylfania. Hwn oedd ymreolaeth diriogaethol leiaf y Székely. Heddiw mae tua 4,200 o Székely yn dal i fyw yma.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Bu hunaniaeth wleidyddol y Székely yn sail sawl brwydr filwrol a gwleidyddol ers ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhwng 1869-1918 ac am gyfnodau maith cyn hynny, perthynai'r Székely i Hwngari o fewn tiriogaeth a elwir yn gyffredinol heddiw fel Hwngari Fawr (ond a oedd yn y cyfnodau dan sylw yn cael eu cydnabod fel "Hwngari". Daeth hynny i ben wedi aflwyddiant Ymerodraeth Awstria-Hwngari yn y Rhyfel Mawr. Yn sgil Cytundeb Trianon wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn sgil y ffaith i Hwngari golli i Rwmania yn filwrol, ildiwyd Transylfania, gan gynnwys tiroedd y Székely, i Rwmania. Dyna bu'r drefn am ugain mlynedd nes i cyflafareddiadau Fienna drosglwyddo gogledd Transylfania - ardal y Székely - i Hwngari yn Ail Ddyfarniad Fienna yn 1940. Dyna fu'r drefn yn swyddogol nes i Hwngari golli'r tiroedd yng Nghytuneb Paris wedi'r Ail Ryfel Byd.
Wedi'r Rhyfel bodolai ranbarth hunanlywodraethol Székely rhwng 1952 a 1968 o fewn Rwmania gomiwnyddol. Sefydlwyd y 'Rhanbarth Hunanlywodraethol Magyar ym 1952, ac fe'i ailenwyd i Ranbarth Hunanlywodraethol Mureș-Magyar ym 1960. Ers diddymu'r Rhanbarth gan yr unben gomiwnyddol, Ceauşescu yn 1968, mae rhai o'r Székely wedi bod yn galw ar ail-sefydlu'r Rhanbarth hunanlywodraethol. Trafodwyd sawl cynnig o fewn y gymuned a chan y Rwmaniaid mwyafrifol. Un cynnig yw creu rhanbarth ar sail cymunedau hunanlywodraethol Sbaen (megis Catalwnia).[6] Cynhaliwyd rali heddychlon dros ymreolaeth yn 2006 o blaid hunan-lywodraeth.[7]
Yn 2013 a 2014, gorymdeithiodd miloedd o Hwngariaid dros awtonomi ar 10 Mawrth yn ninas Târgu Mureș, Romania.[8] 10 Mawrth yw blwyddiant dienyddiad tri Székely oedd yn ymgyrchu dros hunanlywodraeth ym 1854 yn Târgu Mureș gan awdurdodau'r Ymerodraeth Awstria.[9]
Cynrychiolir y Székely gan Gyngor Cenedlaethol Székely. Anthem genedlaethol y Székely yw Székely himnusz.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr Hwngariaid a'r Székely yn yr ardaloedd sy'n ffurfio (yn rhannol) Szeklerland, yn seiliedig ar gyfrifiad Rwmania yn 2002. Mae'r Hwngariaid yn ardaloedd Harghita a Covasna bron i gyd yn Székely, tra yn Cluj a Mureș mae llawer o Magyars hefyd.
Sir | Hwngariaid | Canran y boblogaeth |
---|---|---|
Sir Harghita | 275.841 | 84,61% |
Sir Covasna | 164.055 | 73,81% |
Sir Mureș | 227.673 | 39,26% |
Sir Cluj | 122.131 | 17,37% |
-
Map ethnigrwydd siroed Harghita, Covasna a Mureș (1992)
-
Map ethnigrwydd Harghita, Covasna a Mureș (2002)
-
Map ethnigrwydd Harghita, Covasna a Mureș (2011)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ramet, Sabrina P. (1992). Protestantism and politics in eastern Europe and Russia: the communist and postcommunist eras. 3. Duke University Press. t. 160. ISBN 9780822312413.
...the Szekler community, now regarded as a subgroup of the Hungarian people.
- ↑ Sherrill Stroschein, Ethnic Struggle, Coexistence, and Democratization in Eastern Europe, Cambridge University Press, 2012, p. 210 Cited: "Székely, a Hungarian sub-group that is concentrated in the mountainous Hungarian enclave"
- ↑ Piotr Eberhardt (January 2003). Ethnic Groups and Population Changes in Twentieth-century Central-Eastern Europe. M. E. Sharpe, Armonk, NY and London, England, 2003. ISBN 978-0-7656-0665-5.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Szekler people". Encyclopædia Britannica.
- ↑ Kevin Brook: Jews of Khazaria, Rowman & Littlefield Publisher, UK, 2006, page 170 [1]
- ↑ Nodyn:In lang României îi este aplicabil modelul de autonomie al Cataloniei Archifwyd 28 Mai 2006 yn y Peiriant Wayback (The Catalan autonomy model is applicable in Romania), Gândul, 27 May 2006
- ↑ "HUNSOR ~ Hungarian Swedish Online Resources". Hunsor.se. Cyrchwyd 2013-11-26.
- ↑ "Global post". MTI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-14. Cyrchwyd 2014-03-13.
- ↑ "All Hungary Media Group". Hunsor.se. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mawrth 2014. Cyrchwyd 13 Mawrth 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Szeklers". Encyclopædia Britannica. 26 (arg. 11th). 1911. t. 320.
- Minority Cultures: The Szeklers Tortured History
- http://www2.sci.u-szeged.hu/fokozatok/PDF/Kovacsne_Csanyi_Bernadett/PhDertekezes_CsanyiB.pdf
- https://m.nyest.hu/media/a-szekely-minta-genetikai-tavolsaga-a-tobbi-etnikai-csoporttol-es-mas-neessegektol.jpg?large