Stephen Sondheim
Stephen Sondheim | |
---|---|
Ganwyd | Stephen Joshua Sondheim 22 Mawrth 1930 Manhattan |
Bu farw | 26 Tachwedd 2021 Roxbury |
Man preswyl | Hollywood, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, cyfansoddwr caneuon, sgriptiwr, bardd, awdur geiriau, cerddor, cyfansoddwr, libretydd |
Arddull | sioe gerdd |
Gwobr/au | gwobr Johnny Mercer, Praemium Imperiale, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Edgar, Anrhydedd y Kennedy Center, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Hull-Warriner Award, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts |
Gwefan | http://sondheim.com |
Cyfansoddwr o'r Unol Daleithiau oedd Stephen Joshua Sondheim (22 Mawrth 1930 – 26 Tachwedd 2021)[1]. Roedd yn o'r ffigyrau pwysicaf ym myd theatr cerdd yr 20fed ganrif.
Fel cyfansoddwr cerddoriaeth a geiriau, roedd rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys A Funny Thing Happened on the Way to the Forum (1962), Company (1970), Follies (1971), A Little Night Music (1973), Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street (1979), Sunday in the Park with George (1984), ac Into the Woods (1987). Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer West Side Story (1957) a Gypsy (1959).
Enillodd naw Gwobr Tony (mwy nag unrhyw gyfansoddwr arall) a Gwobr Tony Arbennig am Gyfraniad Gydol Oes i'r Theatr, Gwobr yr Academi, wyth Gwobr Grammy, Gwobr Pulitzer a Gwobr Laurence Olivier. Fe'i disgrifiwyd fel "the greatest and perhaps best-known artist in the American musical theatre." Ef oedd llywydd Cymdeithas y Dramodwyr o 1973 tan 1981.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Cafodd Sondheim ei eni yn Ddinas Efrog Newydd, yn fab i Etta Janet ("Foxy"; née Fox; 1897–1992) a Herbert Sondheim (1895–1966). Gadawodd Herbert ei wraig am fenyw arall. Doedd Stephen ddim yn hoffi ei fam o gwbl.[2] Cafodd ei addysg yn yr Academi Filwrol Efrog Newydd, Ysgol George ym Mhennsylvania, a Choleg Williams.[3]
Roedd Sondheim yn hoyw. Priododd Jeffrey Scott Romley yn 2017. Bu farw Sondheim gartref yn Roxbury, Connecticut, yn 91 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stephen Sondheim, Titan of the American Musical, Is Dead at 91 , The New York Times, 26 Tachwedd 2021.
- ↑ "Secrest book". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-28. Cyrchwyd 2021-11-27.
- ↑ "A Stephen Sondheim Timeline". John F. Kennedy Center for the Performing Arts. Cyrchwyd May 26, 2021.