Neidio i'r cynnwys

Snorlax

Oddi ar Wicipedia
Snorlax
Taldra210 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau460 cilogram Edit this on Wikidata

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grëwyd gan Satoshi Tajiri yw Snorlax (sy'n cael ei adnabod yn Japan fel Kabigon (Japaneg: カビゴン). Wedi'i greu gan Ken Sugimori, ymddangosodd Snorlax gyntaf yn y gêm fideo Game Boy, a gemau dilynol; ac ymddangosodd yn ddiweddarach mewn amrywiol nwyddau, teitlau deilliedig, ac addasiadau wedi'u hanimeiddio a'u hargraffu gan y fasnachfraint.

Mae Snorlax yn cael ei alw'n 'y Pokémon sy'n cysgu' ac yn deip 'normal' o Bokémon. Mae'n esblygiad o'r Munchlax. Mae'n greadur mawr, tew, lliw glas gyda llygaid a cheg caëedig ac mae ganddo ddau ddant sy'n ymestyn allan o waelod ei geg. Mae'n gallu bwyta bron iawn unrhyw beth ac mae angen tua 900 pwys o fwyd bob dydd. Mae'n greadur cysglyd, ond gall barhau i fwyta hyd yn oed ar ôl iddo syrthio i gysgu. O ran ei daldra, mae'n 6 throedfedd 11 modfedd (2.1 metr), ac mae'n pwyso 1,014.1 pwys (460.0 cilogram). Mae'n byw yn y rhanbarthau Alola, Kalos (Canolog) a Kanto.[1]

Mae ei symudiadau yn cynnwys: taclo, cyrliad amddiffynnol, anghofrwydd, llyfu, naddu, dylyfu gên, clep corff, gorffwys, chwyrnu, siarad yn ei gwsg, ergyd giga, rowlio allan, bloc, drwm bola, crensh, clep drom a marchnerth uchel.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Pokemon: Super Deluxe Essential Handbook. Scholastic Inc. 2018. t. 403.