Sedulius Scotus
Gwedd
Sedulius Scotus | |
---|---|
Ganwyd | 9 g |
Bu farw | 9 g |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth y Carolingiaid |
Galwedigaeth | bardd, gramadegydd, athronydd, diwinydd |
Mudiad | Dadeni Carolingaidd |
Ysgolhaig, bardd a diwinydd Gwyddelig oedd Sedulius Scottus neu Sedulius yr Ieuengaf (fl 840 - 860) a sgwennai mewn Lladin.
Yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Lothair (840-855), roedd yn gweithio yn Liège. Cadwyd tua 90 o'i gerddi, a chyhoeddwyd hwy gan Ludwig Traube yn y Poetae Aevi Carolini. Yn eu plith mae dwy gerdd yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" (Rhodri Mawr) dros y Llychlynwyr yn 856. Ei waith pwysicaf yw'r traethawd De Rectoribus Christianis.