Rottweiler
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Màs | 50 cilogram, 42 cilogram |
Gwlad | yr Almaen |
Enw brodorol | Rottweiler |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci gwaith sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Rottweiler (lluosog: cŵn Rottweiler).[1]
Disgyna'r brîd o hen gi gwartheg a ddaethpwyd i ardal Rottweil yn ne'r Almaen gan y Rhufeiniaid. O'r Oesoedd Canol hyd wawr yr oes fodern bu'r cigydd Almaenig yn hebrwng ei gi Rottweiler i'r farchnad gyda chwdyn arian am ei wddf ac yn tynnu cert llawn cig.[2] Nid cymar y cigydd yn unig bu'r Rottweiler. Roedd yn warchotgi cymwys i'r marchnadwr ar ei daith, yn ogystal â sodli gwartheg y porthmon wrth eu gyrru ar y ffordd. Ers gwahardd sodli gwartheg yn yr Almaen ar ddechrau'r 20g, defnyddid y Rottweiler yn gi tynnu, ci heddlu, ci tywys, ci chwilio ac achub, a chi anwes.
Ci mawr a chydnerth yw'r Rottweiler. Mae ganddo gorff cryf gyda chefn byr, a choesau cyhyrog o hyd canolig. Câi'r gynffon ei docio gan amlaf. Côt o flew byr a bras sydd ganddo, melyn a du: du gyda marciau melynddu neu liw mahogani ar y pen, y frest a'r coesau. Mae'n sefyll 56 i 68.5 cm ac yn pwyso rhwng 41 a 50 kg.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Rottweiler].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Rottweiler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2016.