Robert Brown
Gwedd
Robert Brown | |
---|---|
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1773 Montrose |
Bu farw | 10 Mehefin 1858 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | botanegydd, pteridolegydd, mwsoglegwr, llawfeddyg, mycolegydd, naturiaethydd, casglwr botanegol |
Swydd | President of the Linnean Society of London |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Honorary Fellow of the Royal Society of Edinburgh, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Botanegydd a phaleontolegydd o'r Alban oedd Robert Brown FRSE FRS FLS MWS (21 Rhagfyr 1773 – 10 Mehefin 1858)[1] . Bu'n un o'r cyntaf i ddefnyddio'r microsgop optegol ar ei wedd fodern. Trwy hynny, cyflwynodd y disgrifiad sylweddol cyntaf o gnewyllyn y gell ac o symudedd sytoplasmig. Yn hynny o beth bu'n un o sylfaenwyr gwyddor bioleg y gell.
Canfyddodd symudedd Brown, a enwyd ar ei ôl. Mae'n enghraifft brin o fotanegydd yn cyfrannu'n sylweddol i fyd ffiseg.) Bu gwaith Albert Einstein ar symudedd Brown yn allweddol yn ei syniadau yntau, ac yn rhan o'r ddadl ehangach i brofi bodolaeth atomau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.brianjford.com/wbbrowna.htm (Yn 2016 roedd Brian Ford yn wyddonydd annibynnol dylanwadol; graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 1961. Treuliodd amser yn ymchilio i hanes y microsgop.)