Robert Alun Roberts
Gwedd
Robert Alun Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1894 ![]() Nantlle ![]() |
Bu farw | 19 Mai 1969 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | botanegydd ![]() |
Naturiaethwr a botanegydd amaethyddol o Gymru oedd Robert Alun Roberts CBE (10 Mawrth 1894 – 19 Mai 1969), brodor o Nantlle, Gwynedd.
Bu'n fyfyriwr ac yn athro ym Mhrifysgol Bangor, ac yn athro gwyddoniaeth yn Ysgol Botwnnog rhwng 1915 ac 1917. Derbyniodd CBE am ei gyfraniad i amaethyddiaeth yn 1962.[1] Cyfranai'n helaeth i'r rhaglen radio 'Byd Natur', a chafodd y llysenw 'Doctor Alun' gan ei fyfyrwyr. Roedd yn ecolegydd ac yn naturiaethwr brwd.