Richard Myddelton (c. 1508 - 1575)
Richard Myddelton | |
---|---|
Ganwyd | 1508 |
Bu farw | c. 1578 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Lloegr 1542-44 |
Tad | Fulk Myddleton |
Mam | Margaret Smith |
Priod | Jane Dryhurst |
Plant | Thomas Myddelton, Hugh Myddelton, Robert Myddelton, Alice Myddelton, Ffoulk Myddleton, of Bodlith |
Gwleidydd o Ddinbych oedd Richard Myddelton (c. 1508 - 1575), a oedd yn fab i Foulk Myddelton, llywiawdwr Castell Dinbych.[1]
Yn 1542 etholwyd ef yn Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, dros Sir Ddinbych.[2]
Ymfudodd tri o'i feibion, allan o naw, i Lundain, gan chwarae rhan blaenllaw iawn ym musnes a gwleidyddiaeth y ddinas.[3] Dilynodd un ohonynt ei dad yn llywiawdwr Castell Dinbych.
Y teulu
[golygu | golygu cod]Daeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Swydd Amwythig gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:
- Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), Arglwydd Faer Llundain
- Syr Hugh Myddelton (1560 - 1631), peirinnydd y New River
- William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
- Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666) o'r Waun ac yna Wrecsam a Chastell Rhuthun; mab Arglwydd Faer Llundain (uchod). Arweiniodd luoedd y Senedd yn y gogledd-ddwyrain.
- Thomas Myddelton (c. 1624 - 1663) a wnaed yn farwnig yn 1660 am ei wasanaeth i'r Goron.
Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ yba.llgc.org.uk; Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Medi 2017.
- ↑ http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1509-1558/member/myddelton-richard-1509-7778
- ↑ Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru (2008); gol: John Davies; tud 642.
- ↑ Y Gwyddoniadur Cymreig, Gwasg Prifysgol Cymru; tud. 642; gol. John Davies; adalwyd 19 Medi 2017.