Rhys Gwesyn Jones
Gwedd
Rhys Gwesyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1826 ![]() Abergwesyn ![]() |
Bu farw | 5 Medi 1901 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr ![]() |
Gweinidog ac awdur o Gymru oedd Rhys Gwesyn Jones (4 Mai 1826 – 5 Medi 1901). Fe'i ganwyd ym Mhen-y-wern, Abergwesyn, Sir Frycheiniog.[1]
Dechreuodd fel aelod o eglwys Moriah yn 1840 a dechreuodd bregethu yno yn 1844 cyn mynd i Goleg Aberhonddu yn 1847. Dechreuodd swydd fel gweinidog yn Rhaeadr Gwy yn 1851 cyn symud i Benybont-ar-Ogwr yn 1857 ac i Ferthyr Tudful dwy flynedd wedyn. Yn ystod y blynyddoedd yma ysgrifennodd erthyglau ar gyfer Y Beirniad, Y Diwygiwr a mwy. Yn Mai 1867 ymfudodd i Unol Daleithiau America er mwyn cymryd rheolaeth dros ddwy eglwys yn Utica, Efrog Newydd. Bu farw yn 1901 ar ôl salwch o rai misoedd.[2]

Priododd Ann Jones ar 4 Gorffennaf 1855 a chawsant wyth o blant.

Gwaith ysgrifennedig
[golygu | golygu cod]- Drych Y Prif Oesoedd (addasiad gan lyfr Theophilus Evans)
- Caru, Priodi a Byw (1868)
- Esboniwr y Dadguddiad; neu, Ddarlithiau esboniadoe ar Lyfr y Dadguddiad (1863)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ JONES, RHYS GWESYN (1826 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig (1953).
- ↑ "Y PARCH. RHYS GWESYN JONES, ;'D.D.|1901-10-04|Y Celt - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales. Cyrchwyd 2020-03-04.