Rhestr duwiau a duwiesau Llychlynnaidd
Gwedd
Rhennir y duwiau a duwiesau Llychlynnaidd yn ddau dylwyth, yr Æsir a'r Vanir. Weithiau mae'r tylwythau'n cynnwys y jøtnar (cewri), ond nid yw'r llinell rhyngddynt yn eglur iawn. Fe dderbynnir yn fras, fodd bynnag, fod yr Æsir (yn cynnwys Óðinn, Þórr a Týr) yn dduwiau ymladdgar, tra fod y Vanir (Njørðr, Freyja a Freyr yn bennaf) yn dduwiau ffrwythlondeb. Roedd grwpiau amrywiol eraill o fodau dwyfol neu arallfydol, yn cynnwys y Tylwyth Teg, y corrod a'r jøtnar, yn dduwiau llai yn ôl pob tebyg, efallai â'u cyltau a'u cysegrfeydd eu hunain.
Y duwiau a'i swyddogaeth
[golygu | golygu cod]- Baldr (Phol) - Duw harddwch, gwirionder, heddwch, a dadeni. Cymar: Nanna
- Borr - Tad Óðinn, Vili a Ve. Cymar: Bestla
- Bragi (Brego) - Duw barddoniaeth. Cymar: Iðunn
- Búri - Y duw hynaf, tad Borr.
- Dagr - Duw'r dydd, mab Delling a Nótt.
- Delling - Duw'r wawr a thad Dagr gan Nótt.
- Eir - Duwies iacháu.
- Forseti (Forasizo) - Duw cyfiawnder, heddwch a gwirionder. Mab Baldr a Nanna.
- Freyja (Frowa) - Duwies cariad, rhuwioldeb, ffrwythlondeb ac ymladd. Cymar: Óðr
- Freyr (Fro Ing) - Duwies ffrwythlondeb. Cymar: Gerð
- Frigg (Frick) - Duwies priodas a mamolaeth. Cymar: Óðinn
- Fulla (Volla) - Llawforwyn Frigg.
- Gefjun - Duwies ffrwythlondeb a'r aradr.
- Hel (Hellia) - Brenhines Hel, yr isfyd Llychlynaidd.
- Heimdall (Iring, Rigr) - Un o'r Æsir a cheidwad eu teyrnas, Ásgarð.
- Hermóðr (Hermut) - Mab Óðinn.
- Hlín - Duwies cysur.
- Hǫðr - Duwies y gaeaf.
- Hœnir - Y duw mud.
- Iðunn - Duwies ieuenctid. Cymar: Bragi.
- Jǫrð (Erda) - Duwies y Ddaear. Mam Þórr gan Óðinn.
- Kvasir - Duw ysbrydoliaeth.
- Lofn - Duwies cariad.
- Loki - Twyllwr a duw drygioni a thân. Cymar: Sigyn (neu Saeter)
- Máni - Duw'r lleuad.
- Mímir (Mime) - Ewythr Óðinn.
- Nanna - Un o'r Ásynja, gwraig Baldr a mam Forseti.
- Nerþus - Duwies y cyfeirir ati gan Tacitus. Cysylltir ei henw â Njørðr.
- Njørðr - Duw y môr, y gwynt, pysgod, a chyfoeth.
- Nótt - Duwies y nos, merch Narvi a mamAuð, Jørð a Dagr gan Naglfari, Annar a Delling, yn eu tro.
- Óðinn (Wodan) - Arglwydd yr Æsir. Duw doethineb a rhyfel. Cymar: Frigg.
- Sága - Duwies dywell, efallai'n enw arall ar Frigg.
- Sif - Gwraig Thor.
- Sjøfn - Duwies cariad.
- Skaði - Gwraig Njørð.
- Snotra - Duwies pwyll.
- Sol (Sunna) - Duwies yr haul.
- Þórr (Donar) - Duw taranau a brwydro. Cymar: Sif.
- Týr (Ziu, Saxnot) - Duw rhyfel a chyfiawnder.
- Ullr (Wulder) - Duw sgïo, hela, a gornest. Mab Sif.
- Váli - Duw dial.
- Var - Duwies cytundebau.
- Vé - Un o dri duw creawdwr. Brawd Óðinn a Vili.
- Víðarr
- Vili - Un o dri duw creawdwr. Brawd Óðinn a Vé.
- Vør - Duwies doethineb.
Cymeriadau llai
[golygu | golygu cod]- Ægir - Teyrn y môr. Cymar: Rán
- Andhrímnir - Cogydd y duwiau.
- Aurvandil - Cymeriad llai yn y Skáldskaparmál sydd i'w cael dan enwau eraill mewn chweldau Germanaidd eraill.
- Elli - Ymgorfforiad henaint.
- Magni - Mab Þórr a Járnsaxa.
- Meili - Brawd Þórr.
- Miming
- Móði - Mab Þórr.
- Óttar
- Rán - Ceidwad y boddedig. Cymar: Ægir
- Þrúðr - Merch Þórr a Sif.
Rhestr o'r duwiau a duwiesau Llychlynaidd a geir yn yr Edda Rhyddieithol
[golygu | golygu cod]Duwiau
[golygu | golygu cod]Gylfaginning (20-34) | Skáldskaparmál (1) | Thula |
Duwiesau
[golygu | golygu cod]Gylfaginning (35) | Skáldskaparmál (1) | Thula |