Revolutionary Road (ffilm)
Cyfarwyddwr | Sam Mendes |
---|---|
Cynhyrchydd | Bobby Cohen Sam Mendes Scott Rudin |
Ysgrifennwr | Justin Haythe Yn seiliedig ar nofel Richard Yates |
Serennu | Leonardo DiCaprio Kate Winslet Kathy Bates |
Cerddoriaeth | Thomas Newman |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Vantage |
Dyddiad rhyddhau | 26 Rhagfyr, 2008 |
Amser rhedeg | 119 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Mae Revolutionary Road (2008) yn ffilm ddrama Prydeinig-Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Golden Globe. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sam Mendes ac mae'n serennu Leonardo DiCaprio a Kate Winslet. Ysgrifennwyd y sgript gan Justin Haythe yn seiliedig ar nofel o 1961 o'r un enw gan Richard Yates. Rhyddhawyd y ffilm ar 26 Rhagfyr 2008 mewn sinemau cyfyngedig a rhyddhawyd y ffilm ledled yr Unol Daleithiau ar 23 Ionawr 2009.
Crynodeb o'r plot
[golygu | golygu cod]Mae'r ffilm wedi ei gosod ym 1955, ac mae'n adrodd hanes a gobeithion cymeriad Frank (Leonardo DiCaprio) ac April Wheeler (Kate Winslet) sydd wedi troi'u cefnau ar fywyd dinesig er mwyn magu eu plant ym maesdrefi Connecticut, lle maent yn ystyried eu hunain yn wahanol iawn i'w cymdogion ar Ystadau Revolutionary Hill.
Hoffai April fod yn actores ond mae wedi syrffedu ar ei bywyd fel gwraig tŷ swbwrbaidd ac o ganlyniad, mae'n awgrymu i Frank y dylent symud i Baris er mwyn bywiocau eu priodas rhigolaidd. I ddechrau, mae Frank yn hoffi'r syniad am ei fod yntai yn casau ei swydd, ac ymddengys fod eu perthynas yn cael ail-gyfle. Fodd bynnag, pan gaiff godiad cyflog sylweddol yn sgîl ei ddyrchafiad yn Knox Business Machines, mae'n dechrau ail ystyried y syniad o symud. Dechreua yfed yn drwm a chaiff berthynas gydag ysgrifenyddes ifanc o'r swyddfa i ddathlu ei benblwydd yn 30 oed. Ar yr un pryd, caiff April ei pherthynas ei hun gyda'i chymydog Shep Campbell.
Wrth i'r Wheelers geisio rhyddhau eu hunain o'u bywydau undonog, mae eu priodas yn dirywio'n araf nes ei fod yn un cylch diddiwedd o gweryla a chenfigen tra'n ceisio rhoi'r argraff nad oes unrhyw beth o'i le ar eu perthynas. Dim ond John Givings, mab yr asiant tai lleol Helen a'i gwr Howard, sy'n medru gweld beth yn union sy'n digwydd o dan yr wyneb.
Prif Gast
[golygu | golygu cod]- Leonardo DiCaprio ..... Frank Wheeler[1]
- Kate Winslet ..... April Wheeler[1]
- Kathy Bates ..... Helen Givings
- Kathryn Hahn ..... Milly Campbell
- David Harbour ..... Shep Campbell
- Michael Shannon ..... John Givings
- Richard Easton ..... Howard Givings
- Zoe Kazan ..... Maureen Grube
- Jay O. Sanders ..... Bart Pollock
Gwobrau ac Enwebiadau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gleiberman, Owen. "Revoluntary Road." Entertainment Weekly. Rhagfyr 23, 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-08. Cyrchwyd 2009-01-17.