Rénmín Rìbào
Gwedd
Argraffiad ar 1 Hydref 1949, dyddiad sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
Math | Papur newydd dyddiol |
Cyhoeddwr | Pwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol Tsieina |
Sefydlwyd | 15 Mehefin 1948 |
Iaith | Tsieineeg (argraffiadau ychwanegol yn Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwseg, ac Arabeg) |
Pencadlys | Dosbarth Chaoyang, Beijing |
Gwefan swyddogol | www.people.com.cn |
Papur newydd dyddiol a gyhoeddir yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw Rénmín Rìbào (Tsieineeg: 人民日报, Cymraeg: Papur Dyddiol y Bobl). Llais Pwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yw'r papur, ac fe'i gyhoeddir ar draws y byd gyda chylchrediad o 3 i 4 miliwn. Yn ogystal â'i brif argraffiad Tsieineeg, cyhoeddir argraffiadau Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwseg, ac Arabeg.
Yn ystod protestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989, cyhoeddodd Rénmín Rìbào erthygl olygyddol i gondemnio gweithredoedd myfyrwyr. Cynyddodd tensiynau rhwng y protestwyr a'r llywodraeth o ganlyniad i'r erthygl hon.