Neidio i'r cynnwys

QWERTY

Oddi ar Wicipedia
Keyboard QWERTY Christopher Sholes o 1878

Trefn y botymau ar fysellfwrdd gyfrifiaduron a theipiaduron ydy QWERTY. Dyma'r drefn a ddefnyddir amlaf ar gyfrifiaduron a theipiaduron Cymraeg a Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill.

Daw'r enw o drefn y botymau ar ochor chwith - top y bysell. Cafodd ei gynllunio gan Christopher Sholes yn 1874 a'i werthu i gwmni Remington yn yr un flwyddyn. Golygydd a chyhoeddwr papurau oedd Sholes, o Milwaukee, UDA. Sicrhaodd batent yn Hydref 1867 ar beiriant sgwennu (rhyw fath o deipiadur cynnar) ond roedd nifer o broblemau ar y peiriant hwn.

Gweithiodd yn gael ei beiriant am y chwe mlynedd nesaf; y broblem fwyaf i'w datrys oedd fod yr allweddau'n 'cloi' yn ei gilydd.

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng ei drefn QWERTY ef a'r drefn fodern ar fysellfwrdd modern yw na wnaeth gynnwys y llythrennau '1' (un) na'r symbol '0' (sero).

Ar gyfer sgwennu drwy'r iaith Saesneg y seiliwyd y cynllun; nid yw'n cynnwys symbolau megis y to-bach (acen grom). Y syniad oedd rhoi hanner y llythrennau pwysicaf / amlaf yn y Saesneg ar yr ochor chwith, a'r hanner arall ar yr ochr dde, fel fod y ddwy law yn gweithio yr un mor galed. Effaith negyddol hyn oedd fod cyflymder y teipio, mewn gwirionedd, yn arafu!

Mae trefniadau eraill ar gael, megis y Dvorak Simplified Keyboard nad yw cweit mor llwyddiannus â threfn QWERTY.

Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato