Pryf lludw
Cramennog yw pryf lludw (lluosog pryfaid lludw) neu fel y'u gelwir yn Ne Cymru: moch coed. Mae gan y pryf lludw sgerbwd allanol hir a segmentiedig, gydag 14 aelod cymalog. Mae pryfaid lludw yn aelod o'r Oniscidea o fewn Isopoda, gyda dros 3,000 o rywiogaethau y gwyddom amdanynt. Mewn gwrthwyneb i'r enw, nid pryf yw'r pryf lludw.
Mae'r pryfaid lludw sy'n perthyn i rywiogaeth Armadillidium yn gallu rholio i fyny'n belen sydd bron yn berffaith gron er mwyn amddiffyn eu hunain.
Enwau
[golygu | golygu cod]- •Twm Dew
Cyfeiria Geiriadur Prifysgol Cymru at Twm Dew fel enw amgen o Fôn am y gwrachen ludw. Clywyd ar lafar gan drigolyn o Lanrug, Arfon[1]. Meddai Steffan ab Owain: "....rwyf wedi clywed am Twm Dew. Edrycha yn y gyfrol fach wych na Penblwydd Mwnci ayyb ac ar dudalen 71, dwi’n meddwl, ac y mae pwt amdano ynddo. Yr unig le imi weld cyfeiriad ato mewn print fel arall yw yn nghyfrol Hafodydd Brithion, os cofiaf yn iawn"[2]. Dichon mai at ffurf gaeafgysgol glöyn y trilliw bach Aglais urticayw'r cyfeiriadau hyn.
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Mae pryfaid lludw angen lleithder er mwyn gallu byw oherwydd eu bod yn anadlu drwy degyll, o'r enw pseudotrachea, ac felly canfyddir hwy mewn llefydd llaith a thywyll, megis o dan cerrig neu fonyn coeden. Maent fel arfer yn nosol ac yn detritysyddion, gan fwydo yn bennaf ar ddeunydd planhigion marw, a dyma o le caent eu henw, ond maent hefyd wedi eu harsylwi'n bwyta mefus ac eginblanhigion tyner. Mae pryfaid lludw'n helpu i ailgylchu maeth yn ôl i'r ddaear.
- ↑ https://www.facebook.com/groups/CymunedLlenNatur/permalink/1155288997999735/
- ↑ Steffan ab Owain, (Archifydd), Blaenau Ffestiniog, ebost personol i DB