Neidio i'r cynnwys

Pop Idol

Oddi ar Wicipedia
Pop Idol
Enghraifft o:cyfres deledu, television franchise Edit this on Wikidata
CrëwrSimon Fuller Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Rhan oIdol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd6 Hydref 2001 Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Rhagfyr 2003 Edit this on Wikidata
Genresinging talent show, rhaglen gerdd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPop Idol, season 1, Pop Idol, season 2 Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuFremantle Edit this on Wikidata
CyfansoddwrCathy Dennis Edit this on Wikidata
DosbarthyddFremantle Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.itv.com/popidol/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres deledu o'r Deyrnas Unedig oedd Pop Idol a ddarlledwyd ar ITV rhwng 2001 a 2003. Sioe dalentau oedd y rhaglen a oedd yn penderfynu ar ganwr neu gantores orau (neu'r 'pop idol') y Deyrnas Unedig. Seiliwyd y penderfyniad ar bleidleisiau'r cyhoedd.

Roedd y gyfres yn gyfrifol am lansio gyrfa sawl artist: Will Young (enillydd y gyfres gyntaf), Gareth Gates, Darius Campbell (Danesh gynt), Jessica Garlick; a Mark Rhodes, Sam Nixon o'r ail gyfres, ymysg eraill.

Daeth y gyfres i ben yng ngwledydd Prydain wrth i Simon Cowell lansio fformat newydd The X Factor ond mae'r fformat 'Idol' wedi ei werthu i sawl gwlad o gwmpas y byd. Bu'n llwyddiannus iawn yn yr Unol Daleithiau - roedd 15 gyfres o American Idol rhwng 2002 a 2016.

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato