Pont Hafren
Math | pont grog, pont ffordd, pont |
---|---|
Agoriad swyddogol | 8 Medi 1966 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Afon Hafren |
Sir | De Swydd Gaerloyw, Ardal Fforest y Ddena |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.6099°N 2.64026°W |
Cod OS | ST5590090230 |
Hyd | 1,600 metr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Deunydd | dur |
Pont grog yw Pont Hafren sy'n rhychwantu Afon Hafren rhwng De Swydd Gaerloyw yn Lloegr a Sir Fynwy yn Ne Cymru. Mae hi'n cludo'r draffordd M48. Y bont oedd y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr a oedd yn cludo'r draffordd M4, cyn agor Ail Groesfan Hafren. Cymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan y Frenhines Elisabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig Gradd I i'r bont ym 1998.
I ddathlu agoriad y bont, ysgrifennodd y bardd Eingl-Gymreig Harri Webb bennill ddychanol:
- Two lands at last connected
- Across the waters wide,
- And all the tolls collected
- On the English side.[1]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Serch i'r Bont Hafren gael ei defnyddio i groesi rhwng Cymru a Lloegr, mae'r bont ei hun wedi'i lleoli'n gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Lloegr gyda'r pen Cymreig wedi'i leoli uwchben Penrhyn Beachley, sydd y tu fewn i ffiniau presennol Lloegr. Arferai Penrhyn Beachley, fodd bynnag, fod y tu mewn i ffiniau Cymru yn ôl lleoliad Clawdd Offa.
Adeiladau cydrannol
[golygu | golygu cod]Mae afon Hafren yn cynnwys nifer o bontydd gwahanol, sef Pont Gwy, Traphont Beachley, Pont Hafren a Thraphont Aust.
Pont Gwy
[golygu | golygu cod]Pont 408 m (1,340 tr) o hyd sydd wedi'i hangori â cheblau yw Pont Gwy. Mae hi'n rhychwantu afon Gwy sydd heddiw'n nodi'r union ffin rhwng Lloegr a Chymru—2.7 km i'r de o Gas-gwent.
Traphont Beachley
[golygu | golygu cod]Adeiledd hytrawst deuflwch gyda wyneb concrit yw Traphont Beachley sydd wedi'i gynnal gan drestlau haearn wrth iddi grosi'r penrhyn. Saif gwersyll y fyddin ar y penrhyn.
Pont Hafren
[golygu | golygu cod]Lleolir Pont Hafren yn agos i leoliad yr hen Fferi Aust. Pont grog 1,597 m (5,240 tr) o hyd yw hi, sydd â dec wedi'i gynnal gan ddau brif gebl sy'n hongian rhwng dau dŵr haearn. Hyd y bwlch rhwng y ddau dŵr yw 988 m (3,240 tr). Mae'r tyrau'n wag ac yn codi 136 m (445 tr) uwchben lefel y môr.
Traphont Aust
[golygu | golygu cod]Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Aust ac y mae'n cario'r ffordd i angorfa gyntaf Pont Hafren.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lords Hansard Text. UK Parliament Publications & Records (17 Chwefror 1999). Adalwyd ar 6 Mehefin 2014.