Neidio i'r cynnwys

Philopoemen

Oddi ar Wicipedia
Philopoemen
Cerflun Philopoemen wedi ei glwyfo gan David d'Angers (1837)
Ganwyd253 CC Edit this on Wikidata
Megalopolis Edit this on Wikidata
Bu farwc. 183 CC, 183 CC Edit this on Wikidata
o meddwdod Edit this on Wikidata
Messene Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMegalopolis Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddstrategos of the Achaean League Edit this on Wikidata
TadCraugis of Megalopolis Edit this on Wikidata

Cadfridog Groegaidd a strategos Cynghrair Achaea oedd Philopoemen, Groeg: Φιλοποίμην, Philopoimen, ( 253 CC - 183 CC).

Ganed ef ym Megalopolis, yn fab i Craugis. Bu ei dad farw pan oedd yn ieuanc, a mabwysiadwyd ef gan ddinesydd amlwg, Cleander. Addysgwyd ef gan yr athronwyr Ecdemus a Demophanes. Daeth Philopoemen i sylw pan gynorthwyodd i amddiffyn Megalopolis yn erbyn Cleomenes III, brenin Sparta yn 223 CC. Y flwyddyn wedyn, gwnaeth Antigonus III Doson, brenin Macedon, gynghrair a’r Achaeaid, Boeotiaid, Thessaliaid a’r Acarnaniais i ymosod ar Sparta. Roedd Philopoemen yn gadfridog ar ran o fyddin y cynghrair, a bu ganddo ran amlwg ym Mrwydr Sellasia pan orchfygywyd byddin Sparta.

Treuliodd ddeng mlynedd o 221 CC yn ymgyrchu ar yns Creta fel milwr hur, yna yn 210 CC, penodwyd ef yn bennaeth marchoglu Cynghrair Achaea. Yr un flwyddyn gorchfygodd fyddin Aetolia ac Elis ger Afon Larissa. Apwyntiwyd ef yn strategos Cynghrair Achaea yn 209 BC, a gwnaeth ddiwygiadau i’w hoffer a’u dulliau o ymladd. Ym Mrwydr Mantinea (207 CC ) gorchfygodd fyddin Sparta dan Machanidas, a lladdodd Philopoemen y cadfridog Spartaidd a’i law ei hun.

Wedi i Philip V, brenin Macedon wneud cytundeb heddwch a Gweriniaeth Rhufain yn 205 CC, aeth Nabis, oedd wedi dod yn llywodraethwr Sparta, i ryfel yn erbyn Cynghrair Achaea. Llwyddodd Philopoemen i’w orfodi i encilio o Messene. Apwyntiwyd ef yn strategos y cynghrair eto rhwng 201 CC a 199 CC, a gorchfygodd fyddin Nabis ger Tegea. Yn 199 CC dychwelodd i Creta i gynorthwyo dinas Gortyna, a bu yno am chwe blynedd.

Tra’r oedd Philopoemen ar ynys Creta, manteisiodd Nabis ar y cyfle i adennill tiriogaethau yn ne Groeg. Dychwelodd Philopoemen yn 193 CC, ac apwyntiwyd ef yn strategos unwaith eto. Wedi dwy frwydr, llwyddodd i orchfygu Nabis. Gofynnodd Nabis am Gymorth o Aetolia, ond pan gyrhaeddodd byddin o Aetoliaid, llofruddiasantNabis a chipio’r ddinas. Manteisiodd Philopoemen ar hyn i gipio Sparta a’i gorfodi i ymuno â Chynghrair Achaea.

Yn 183 CC, gwrthryfelodd Messene yn erbyn y cynghrair. Aeth Philopoemen yno gyda byddin, ond yn ystod y frwydr taflwyd ef oddi ar ei farch, a chymerwyd ef yn garcharor. Caniatawyd iddo yfed gwenwyn, fel marwolaeth fwy anrhydeddus na chael ei ddienyddio. Yn ei angladd cyhoeddus, cariwyd ei ludw gan yr hanesydd Polybius, a ysgrifennodd fywgraffiad ohono yn ddiweddarach.