Petah Tikva
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 236,169 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Canolog |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 35.868 km² |
Uwch y môr | 16 metr |
Yn ffinio gyda | Giv'at Shmuel, Bnei Brak, Tel Aviv, Cyngor Rhanbarthol Drom HaSharon |
Cyfesurynnau | 32.08°N 34.88°E |
Cod post | 49001–49197 |
Mae Petah Tikva neu'n fwy clir o ran ynghanian Cymraeg, Petach Ticfa (Hebraeg: פֶּתַח תִּקְוָה (help·info), weithiau Petah-Tiqua (ynganer yr 'h' fel 'ch' Gymraeg mewn sillafiadau Lladin o'r eiriau Hebraeg yn Israel) yn ddinas yn Rhanbarth Canol Israel - ardal fwyaf poblog y wlad.
Ystyr yr enw yw "Porth/Agoriad Gobaith". Gelwir y dref hefyd yn Em HaMoshavot ("Mam yr Moshavot").
Gorwedd y ddinas 10.6 km (6.59 mi) i'r dwyrain o Tel Aviv. Sefydlwyd hi yn 1878, gan mwyaf gan aelodau Iddewig Uniongred o'r Hen Yishuv (cymuned Iddewig Israel cyn annibyniaeth). Daeth yn aneddle barhaol yn 1883 diolch i gymorth ariannol y Barwn Edmond de Rothschild.
Yn 2017 poblogaeth y ddinas oedd 240,357.[1] Dwysedd ei phoblogaeth yw 6,277 person y km sgwâr a maint y ddinas yw 35,868 dunams (~35.9 km2 neu 15 sq mi). Mae Petach Tivfa yn rhan o Ardal Fetropolitan Tel Aviv.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae gan Petach Ticfa le arbennig yn mytholeg a datblygiad Seionistaieth a'r wladwriaeth Iddewig. Dyma oedd y pentref Iddewig gyfoes gyntaf a daeth ei methiant a llwyddiant yn destun gobaith a diddordeb i'r gymuned Iddewig, yr Yishuv ym Mhalesteina ac ar draws y byd Iddewig. Roedd ei sefydlu yn rannol ddiolch i ymdrechion ac athroniaeth mudiad Chofefei Tsion ac enwyd stryd yn y ddinas ar ôl y mudiad. Daeth yr arfer o enwi newydd trefi ar ôl rhannu o'r Beibl yn nodwedd o systeme enwi Seionistiaeth a daeth y broses o brynu tir (diffaith fel rheol) er mwyn ei ddatblygu yn nodwedd arall ar Seinistiaeth sy'n fyw hyd heddiw.
Sefydlu
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Petach Ticfa yn 1878 gan wladychwyr crefyddol Iddewig Ewropeaidd yn 1878. Dyma oedd y sefydliad amaethyddol fodern Iddewig yn ne talaith De Syria yr Ymerodraeth Otomanaidd. Roedd y tir yn dir sâl iawn yn llawn corsydd malaria. Prynwyd y tir gan ddau ddyn busnes Arabaidd Gristnogol o Jaffa. Caniatawyd i'r ddau werthu'r tir gan y Swltan, Hamid II am ei fod yn dir mor sal. Roedd y Swltan wedi gwahardd Iddewon rhag prynu dewis cyntaf y sefydlwyd oedd ger Jericho.[2]
Cafwyd haint malaria yn 1880 a bu'n rhaid gadael y tirogaeth. Daeth ymfudwyr eraill o Bilu yn 1883 a gyda chefnogaeth ariannol gan y Barwn Edmond de Rothschild, sychwyd y cors a daeth dyfodol y fenter yn fwy diogel. [3]
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Petach Ticfa yn ganolfan ar gyfer ffoaduriaid o Tel Aviv a Jaffa yn dilyn penderfyniad yr awdurdodau Otomanaidd i'w hel o'r trefi hynny oherwydd iddynt wrthod wasanaethu ym myddin yr Ymerodraeth yn erbyn y Prydeinwyr. Dioddefodd y dref yn drwm gan ei fod yn gorwedd rhwng ffrynt milwyr Otomanaidd a Phrydain
1917–1948
[golygu | golygu cod]Dechreuodd diwydiant ddatblygu yn yr 1920au ac enillodd statws cyngor lleol gan yr awdurdodau Prydeinig a oedd yn llywodraethu Palesteina wedi'r Rhyfel Mawr. Gwelwyd terfysg gwrth-Iddewig yn ym Mai 1921 pan lladdwyd 4 Iddew.[4]
Yn ôl cyfrifiad 1931, poblogaeth y dref oedd 6,880 mewn 1,688 tŷ.[5] Yn 1937 dyrchafwyd y dref yn ddinas, gyda Shlomo Stampfer, mab un o'i sefydlwyr, Yehoshua Stampfer, yn faer arni.
Tyfu a gwerthu ffrwythau sitrws oedd prif ddiwydiant y dref ar ddechrau'r ganrif.
Petach Ticfa heddiw
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas bellach yn rhan o Tel Aviv Metropolitan. Mae'n ganolfan i rai o gwmnïau a sefydliadau'r wlad a rhai rhyngwladol gan gynnwwys: Oracle Corporation, IBM, Intel, Alcatel-Lucent, ECI Telecom, a GlaxoSmithKline Pharmaceuticals. Ceir hefyd bencadlys Tadiran Telecom ym ardal ddiwydiannol Ramat Siv. Mae Arutz Sheva, y rhwydwaith cyfryngau Israeli Seionyddol adain dde grefyddol, yn gweithredu stiwdio radio rhyngrwyd yn Petach Ticfa, lle mae gwasanaeth teledu rhyngrwyd Arutz Sheva yn ogystal â'r wasg argraffu ar gyfer ei bapur newydd B'Sheva wedi eu lleoli.
Mae gan wasanaeth cudd Israel, Shin Bet, gyfleuster holi yn Petah Tikva.[6]
Mae gan y ddinas ddau dîm pêl-droed, sef C.P.D. Petah Tikva a C.P.D. Maccabi Petah Tikva.
Gefailldrefi
[golygu | golygu cod]
|
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Petach Ticfa 1920au
-
Prosesiwn Petach Ticfa 1930au
-
Hejal de la Sinagoga de Petaj Tikva. Stamp Israeli, 1953. Arsgrifiad Hebraeg: "llawenydd a gorfoledd ac yn siriol wyliau"[8]
-
Delwedd o'r dref yn 1912
-
Petah Tikva yn yr 1920au
-
Cerflun fyw yn Petach Ticfa
-
Pont a ddylunwyd gan Santiago Calatrava
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwefan Bwrdeistref Petach Ticfa Archifwyd 2018-02-13 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.cbs.gov.il/ishuvim/reshimalefishem.pdf
- ↑ Yaari, Avraham (1958). The Goodly Heritage: Memoirs Describing the Life of the Jewish Community of Eretz Yisrael From the Seventeenth to the Twentieth Centuries. (Translated and abridged by Israel Schen; edited by Isaac Halevy-Levin). Jerusalem: Youth and Hechalutz Dept. of the Zionist Organization. t. 93.
- ↑ "Petah Tikva". The Jewish Agency for Israel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-25. Cyrchwyd 17 July 2014.
- ↑ "Petah Tikvah". Jewish Agency for Israel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 21, 2008. Cyrchwyd October 21, 2008. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Mills, 1932, p. 14
- ↑ "Kept in the Dark". B'Tselem. October 2010. Cyrchwyd September 15, 2011.
- ↑ "Trondheims offisielle nettsted – Vennskapsbyer" (yn Norwyeg). Trondheim.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 27, 2011. Cyrchwyd September 16, 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Zacarías 8:19